Mae un o bob chwe pherson sydd â chanser yng Nghymru’n byw yn ardaloedd tlotaf y wlad yn ôl ymchwil newydd gan Gymorth Canser Macmillan a’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwybodaeth am Ganser (NCIN).

Mae’r ymchwil yn dangos bod dros 16,200 o bobl sydd â chanser yng Nghymru – 17.1% – yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Yn ôl elusen Macmillan, mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd tlawd yn wynebu lefelau diweithdra uwch ac yn fwy tebygol o fod ar ryw fath o fudd-dal incwm, gan eu gwneud yn fwy ‘agored’ i effaith ariannol canser.

Mae’r elusen yn rhybuddio bod baich ariannol ychwanegol canser mewn perygl o roi ‘mwy o bwysau’ ar bobl sy’n byw yn ardaloedd difreintiedig y wlad.

Canser â lefelau o amddifadedd

Bydd yr ymchwil yn cael ei gyflwyno yng nghynhadledd y Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol yn Lerpwl fory, ac mae’n dangos bod 4,000 o fenywod sydd â chanser y fron a 2,300 o ddynion sydd â chanser y prostad yng Nghymru’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Mae’r data’n tynnu sylw at gysylltiadau newydd rhwng canserau arbennig â lefelau o amddifadedd cymdeithasol.

Er enghraifft, mae pobl sy’n byw gyda chanser yr ysgyfaint neu geg y groth tua dwywaith yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf na’r rhai sy’n byw gyda chanser y croen.

Hefyd, ar gyfer wyth o’r 10 canser mwyaf cyffredin, mae’r bobl sy’n eu goroesi yn y tymor hir yn fwy tebygol o ddod o ardaloedd mwy cefnog.

Yn ôl yr elusen, mae hyn yn amlygu’r ffaith nad yw pobl o ardaloedd tlawd yn goroesi’n dda a bod cyfraddau marwolaeth uwch yn gysylltiedig â’r grŵp mwyaf difreintiedig.

Cymorth ariannol

“Mae cael gwybod bod un o bob chwech o bobl sy’n byw gyda chanser yn byw yn rhai o’r ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru yn bryder mawr,” meddai Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru.

“Mae Macmillan Cymru’n gwybod y gall canser fod yn andwyol yn ariannol, yn enwedig i’r rhai sydd eisoes yn byw mewn amddifadedd, a dyna pam rydyn ni eisiau i bob claf canser gael ei gyfeirio fel mater o drefn at gymorth ariannol.

“Ni chafodd bron i hanner y rhai a holwyd ar gyfer Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru y wybodaeth hon felly mae angen i fyrddau iechyd a’r llywodraeth weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pob claf canser yn cael eu cyfeirio at gymorth ariannol mewn da bryd.”

Daw’r data o raglen ymchwil ar y cyd dros y Deyrnas Unedig rhwng Macmillan a Rhwydwaith Gwybodaeth Canser Cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mewn cydweithrediad ag Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.