Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 34 oed yn dilyn digwyddiad yn Abertawe y bore ma.
Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau yn dilyn y digwyddiad yn oriau man y bore, ond fe fu farw’n ddiweddarach.
Mae’r dyn a gafodd ei arestio bellach yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio.
Cafodd yr heddlu eu galw i Princess Way am oddeutu 3 o’r gloch y bore, ac fe fu’r ffordd ynghau am ran helaeth o’r dydd.