Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cyhoeddi Neges y Pasg i bobl Cymru.
Meddai AS Llafur Gorllewin Caerdydd: “Rwy’n anfon fy nymuniadau cynhesaf at bawb sy’n dathlu’r Pasg ac at y rhai ledled Cymru sy’n myfyrio ar sut mae ein bywydau wedi newid.
“Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn llawn eiliadau emosiynol ac yn anodd i bob un ohonom. Bydd llawer yn teimlo colli anwyliaid yn ddyfnach yn ystod y cyfnod hwn. Byddwch yn garedig i chi’ch hunain.
‘Optimistiaeth’
“Gan fod nosweithiau hir y gaeaf wedi ildio i’r gwanwyn, mae gennym achos dros optimistiaeth yma yng Nghymru. Mae’r cyfraddau coronafeirws yn parhau’n isel, mae ein rhaglen frechu yn parhau i gyrraedd lefelau uchel newydd, ac rydym yn lleddfu’n ofalus y cyfyngiadau y bu eu hangen i gadw Cymru’n ddiogel.
“Wrth i ni symud ymlaen, rydym yn unedig yn ein gobeithion ar gyfer y dyfodol, ac yn benderfynol y bydd yr aberthiadau rydym i gyd wedi’u gwneud gyda’n gilydd yn sicrhau’r cenedl decach, fwy eangfrydig yr ydym yn ymdrechu i fod.
“Rwy’n gobeithio y cewch chi gyd Basg heddychlon ac amser i orffwys.”