Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn o Abertawe wedi cyhuddo swyddogion heddlu o ddwyn £30,000 o arian parod yr oedd wedi bod yn cynilo drwy gydol ei fywyd.

Ar ail ddiwrnod yr achos yn erbyn y tri swyddog o Heddlu’r De, fe glywodd Llys y Goron Caerdydd bod Joedyn Luben yn “anhapus iawn” ar ôl i arian oedd mewn sêff yn ei gartref ddiflannu yn dilyn cyrch.

Dywedodd Joedyn Luben fod ganddo £77,000 o arian parod yn y sêff pan gynhaliodd yr heddlu gyrch ar y tŷ fel rhan o ymchwiliad pedair blynedd yn ôl, ond ar ôl penderfynu peidio â dwyn cyhuddiadau yn ei erbyn fe ddychwelodd Heddlu De Cymru’r arian iddo.

Yn ôl Joedyn Luben fodd bynnag roedd y swm o arian yn y siec a gafodd  £30,000 yn llai na faint o arian oedd yn y sêff mewn gwirionedd.

Tri yn gwadu cyhuddiadau

Mae’r cyn-dditectif Stephen Phillips a dau gwnstabl, Philip Christopher Evans a Michael Stokes, wedi’u cyhuddo o ddwyn arian o ddwy sêff oedd yn y tŷ yn Heol Penderry, Abertawe.

Yn ôl yr erlyniad roedd y tri diffynnydd wedi dwyn £12,000 yn ystod y cyrch ar 1 Ebrill 2011, cyn i Philip Christopher Evans a Michael Stokes gymryd £1,000 o ail sêff.

Fe gymrodd Stephen Phillips a Michael Stokes gweddill yr arian pan oedden nhw yn swyddfa’r heddlu ar 21 Gorffennaf, ychwanegodd yr erlyniad.

Clywodd y rheithgor bod y ddau swyddog wedi cyfri 130 o bapurau £20 a 58 o bapurau £10 wrth gyfrif un pentwr o arian, ond yn ôl yr erlyniad roedd swyddog oedd wedi bod yno’n gynt wedi cyfrif 230 papur £20 a 66 papur £10.

Mae Stephen Phillips, 47 o Abertawe yn gwadu pedwar cyhuddiad o ddwyn tra bod Philip Christopher Evans, 38 oed o Langennech, a Michael Stokes, 35, o Lyn-nedd, yn gwadu dau gyhuddiad yr un.

Gwadu delio cyffuriau

Wrth gael ei groesholi fe wadodd Joedyn Luben, oedd yn 27 oed adeg y cyrch bedair blynedd yn ôl, fod yr arian oedd ganddo yn y tŷ wedi dod o werthu cyffuriau.

Mynnodd fod yr arian wedi dod iddo mewn modd cyfreithlon, ac nad oedd wedi cywiro swyddogion yn gynharach pan ddywedon nhw eu bod nhw wedi canfod £60,000 o arian parod am ei fod wedi cael cyngor cyfreithiol i beidio ag ateb cwestiynau.

Ychwanegodd bod rhywfaint o’r arian wedi dod o enillion gamblo, tra bod £12,000 wedi cael ei roi i mewn i’r sêff y diwrnod cyn y cyrch ar ôl iddo werthu ei gar.

Ond fe ddywedodd Joedyn Luben mai’r rheswm nad oedd wedi cynnig tystiolaeth i’r heddlu o sut oedd e wedi cael gafael ar yr arian oedd am ei fod yn credu mai’r tri swyddog heddlu, nid fe, oedd yn cael eu cyhuddo.

“Faint o arian oedd yn y sêff yna? £77,000,” meddai Joedyn Luben.

“Roedd yr arian i gyd yn gynilion roeddwn i wedi’u cronni … ac roeddwn i wedi bod yn ei gasglu ers fy mod i’n 16 oed. Fe ddechreuais i arbed arian yn ifanc.”

Mae’r achos yn parhau.