Bydd dydd Sul, Chwefror 21, yn nodi diwrnod Mamiaith Ryngwladol UNESCO ac i ddathlu’r digwyddiad, bydd trefniant arbennig o’r gân boblogaidd ‘Ysbryd y Nos’ yn cael ei rhyddhau.

Y cerddor Osian Huw Williams sy’n gyfrifol am y trefniant newydd, sy’n cynnwys artistiaid adnabyddus a disgyblion ysgolion uwchradd o Gymru a thu hwnt.

Bydd fideo yn cael ei gynhyrchu gan gwmni Amcan i gyd-fynd a’r gân ac yn cynnwys perfformiadau gan yr artistiaid, y disgyblion a delweddau trawiadol o Gymru.

Daw hyn yn sgil cynllun Cenedl mewn Cân, sydd â bwriad yw hyrwyddo Cymru, ei diwylliant, a’r iaith Gymraeg i weddill y byd.

“Dangos pwysigrwydd ein hiaith”

Mae disgyblion ysgolion uwchradd o Gymru, Dubai, Patagonia a Lloegr wedi mynd ati i ffilmio a recordio eu hunain yn canu yn eu cynefinoedd.

“Mae’r brwdfrydedd gan y disgyblion, rhieni ac athrawon wedi bod yn wych,” meddai Elin Evans, cydlynydd y prosiect.

“Mae’r angerdd i fod yn rhan o Cenedl mewn Cân wedi dangos pwysigrwydd ein hiaith ymysg ein pobl ifanc a’r balchder sydd gennym i’w rhannu a gweddill y byd”.

Bydd y gân a’r fideo yn cael ei chwarae gyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru ac yn ymuno a’r disgyblion bydd Cleif Harpwood, Bryn Fôn, Eädyth a Mared Williams.

“Mae’n bleser bod yn rhan o brosiect sydd yn hyrwyddo’r diwylliant Cymraeg,” meddai Cleif Harpwood.

“Mae cerddoriaeth yn fodd naturiol i ni rannu a dathlu ein hiaith. Dwi’n edrych ymlaen at glywed fersiwn Osian yn ei holl ogoniant”.

Cleif Harpwood

Cais Treftadaeth y Byd i Dirlun y Llechi

Yn ôl Gareth Thomas, Aelod Cabinet Datblygu’r Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mewn cyfnod mor anodd rwy’n hynod falch ein bod wedi gallu rhoi cyfle mor arbennig i’n pobl ifanc er mwyn ein cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth ryngwladol yn y Gymraeg a’n diwylliant Cymreig.

“Mae hwn yn gynllun ar y cyd ac awdurdodau lleol eraill sydd fel Cyngor Gwynedd yn credu mewn gwerth a phwysigrwydd defnyddio iaith er budd ein cymunedau, mewn busnes a chreu naws am le unigryw.

“Wrth gwrs, yn 2021 bydd Gwynedd yn derbyn penderfyniad gan UNESCO ar gais Treftadaeth Byd i Dirlun Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

“Mae Cenedl mewn Cân yn amserol iawn ac yn atgyfnerthu ein nod o ddathlu ein diwylliant a’n iaith a chyfraniad pwysig y tirlun Llechi a’i phobl i’r byd.”

Arweinir prosiect Cenedl Mewn Cân gan Wasanaeth Twristiaeth Cyngor Gwynedd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Benfro, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam.

Eädyth

Enwebu chwareli Gwynedd am statws Safle Treftadaeth Y Byd

Roedd yr ardal yn brif gynhyrchydd llechi’r byd ar un adeg