Mae Aelodau Seneddol wedi dechrau trafod cynlluniau dadleuol y Llywodraeth Geidwadol i gyflwyno pleidleisiau Seisnig ar gyfer cyfreithiau Seisnig (Evel).

Mae’r llywodraeth yn San Steffan wedi llunio cyfres o gynlluniau o dan y drefn newydd gan ddadlau y byddan nhw’n “cryfhau’r Undeb” ac yn rhoi “mwy o reolaeth i Loegr dros benderfyniadau sy’n effeithio Lloegr yn unig.”

Fodd bynnag, mae’r SNP wedi beirniadu’r cynlluniau’n hallt, gan ddweud y byddan nhw’n pleidleisio yn eu herbyn.

‘Chwerthinllyd’

Roedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn Glyn Davies hefyd yn feirniadol o’r cynllun:

“Yn ôl pob tebyg, mae tua 85% o’r etholwyr yn Sir Drefaldwyn yn derbyn rhyw fath o ofal iechyd yn Sir Amwythig lle mae’r system iechyd yn cael ei diwygio,” meddai wrth BBC Cymru Fyw.

“Mae’n chwerthinllyd meddwl na fyddai AS Sir Drefaldwyn yn rhan o’r ddadl yna (o achos y drefn newydd).

“Rwy’n deall pam mae Aelodau Seisnig am fynd i’r afael â’r mater yma ond dydw i ddim yn argyhoeddedig y bydd yn gweithio.”

Er hyn, mae am bleidleisio gyda’i blaid ac mae’n debygol y bydd y llywodraeth yn cael mwyafrif yn y bleidlais.