Mae disgwyl cyhoeddiad heddiw bod yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi £2 miliwn o gyllid i brosiect sy’n cynhyrchu ynni gan ddefnyddio tonnau’r môr.
Bydd y prosiect, fydd wedi’i leoli yn Abertawe ac sy’n werth £3 miliwn, yn profi technoleg arloesol sy’n defnyddio ynni o donnau’r môr, meddai’r Gweinidog Cyllid a Busnes, Jane Hutt.
Mae’r cyllid yn cynnwys buddsoddiad gwerth £900,000 gan MPS i brofi technoleg WaveSub sy’n dal dwysedd pŵer uchel tonnau drwy ei system esgyn unigryw.
Gall y ddyfais hefyd wrthsefyll stormydd.
Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i’r prototeip graddedig gael ei ddatblygu a’i brofi, gan baratoi’r ffordd ar gyfer dyfais maint llawn ar gyfer arfordir Sir Benfro.
Bydd y cyllid yn cael ei gyhoeddi’n ffurfiol gan Jane Hutt wrth iddi ymweld â safle MPS heddiw.
‘Potensial anferth’
Mewn datganiad, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt: “Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda buddsoddwyr a busnesau i roi hwb i dwf economaidd a chreu swyddi sy’n gofyn am lefel uchel o sgiliau, felly rwy’n falch iawn fod £2 filiwn o gyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi er mwyn dod â WaveSub gam yn nes at roi fersiwn maint llawn ar waith.
“Mae potensial anferth i ynni adnewyddadwy’r môr ac rydym yn buddsoddi £80 miliwn o gyllid yr UE yn y maes hwn dros y chwe blynedd nesaf – gan gynnwys cymorth i alluogi datblygu dwy ardal brofi oddi ar arfordiroedd Sir Benfro ac Ynys Môn.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn arbed llawer o amser, cost a risgiau i ddatblygwyr yn y sector hwn. Bydd hefyd yn sefydlu Cymru fel arweinydd ym maes cynhyrchu ynni’r môr.”
‘Technoleg arloesol’
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Marine Power Systems, Dr Gareth Stockman: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael y buddsoddiad hwn gan yr UE, a fydd yn cefnogi’r cam nesaf yn y broses o ddatblygu ein dyfais WaveSub.
“Mae gan ein technoleg arloesol y potensial i gyfrannu’n sylweddol at gyflawni’r targedau byd-eang ar gyfer ynni adnewyddadwy. Mae Marine Power Systems wedi gwneud cynnydd sylweddol ac mae’n wych cael rhagor o gymorth i gefnogi’n gwaith caled.”