Carwyn Jones
Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn dweud wrth gynhadledd o benaethiaid addysg ddydd Iau fod rhaid cynnal momentwm addysg yng Nghymru er lles dysgwyr.

Mae disgwyl iddo dynnu sylw yn ystod ei anerchiad at lwyddiannau Llywodraeth Cymru ym maes addysg ers iddyn nhw ddod i rym yn 1999 pan gafodd y Cynulliad ei sefydlu.

Cyn y gynhadledd, dywedodd Carwyn Jones: “Rwy’n frwd ynghylch ein system addysg. Os ydych yn frwd dros addysg yng Nghymru ac yn credu y gall fod yn well ac y bydd yn well rydym ar yr un donfedd.

“Mae’n rhaid i ni elwa i’r eithaf ar y momentwm newydd o fewn byd addysg yng Nghymru, gan beidio ag ofni’r diwygiadau y mae angen eu gwneud er mwyn cyflawni’r system addysg y mae pobl Cymru yn ei haeddu.”

Buddsoddi mewn adeiladau 

Fe fydd yn tynnu sylw at y sefyllfa pan ddaeth Llafur i rym yn 1999, gan gynnwys “cyflwr difrifol” lefelau cyrhaeddiad ac adeiladau, cyfleusterau gwael a dosbarthiadau rhy fawr.

Ychwanegodd: “Trwy ein rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21fed ganrif rydym yn buddsoddi £1.4 biliwn mewn ailadeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau ar draws Cymru.

“Dyma’r rhaglen fwyaf uchelgeisiol o wella adeiladau ysgolion a chodi adeiladau newydd ers yr 1960au.

“Er nad ydym ond ar ail flwyddyn ein rhaglen pum mlynedd mae dros 50,000 o ddysgwyr yng Nghymru eisoes wedi elwa arni.

“Mae angen mwy na dim ond adeiladau da, fodd bynnag. Mae angen polisïau ar gyfer cyflawni’r gwelliannau a dyna’n union beth rydym wedi’i wneud.”

Ymhlith y polisïau hynny mae sefydlu’r Cyfnod Sylfaen yn 2008, ac mae tystiolaeth yn dangos ei fod wedi llwyddo, ar y cyfan, i gael effaith bositif ar blant.

Addysg uwch 

Fe fu gwelliannau hefyd ym maes addysg uwch, fel yr eglura Carwyn Jones:

“Mae ein cymwysterau TGAU a Safon Uwch newydd sydd wedi’u llunio’n benodol ar gyfer Cymru, ynghyd â Bagloriaeth Cymru, yn helpu i sicrhau bod ein pobl ifanc yn fwy parod ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer y byd go iawn.

“Rydym wedi symud o sefyllfa lle’r oedd dysgwyr yn ‘cyflawni’n ddigonol’ i sefyllfa lle y maent bellach yn cyflawni’n dda iawn.

“Tynnodd Estyn sylw at fomentwm newydd o fewn byd addysg yng Nghymru yn gynharach eleni. Mae canlyniadau arholiadau eleni’n adlewyrchu’r momentwm hwn.

“Mae canlyniadau TGAU ein disgyblion wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer y myfyrwyr sy’n ennill gradd A* ar lefel Safon Uwch wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac enillodd y nifer mwyaf erioed o fyfyrwyr y radd uchaf hon yr haf hwn.”

Cwricwlwm newydd

 

Dywedodd Carwyn Jones fod addysg pobol ifanc yn “hollbwysig” i Lywodraeth Cymru, a bod datblygu cwricwlwm newydd yn brawf o hynny.

“Wrth edrych tua’r dyfodol mae’n rhaid i ni addo i’n pobl ifanc eu bod hwy ynghyd â’u haddysg yn hollbwysig i ni. Bydd y cwricwlwm newydd a fydd yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf yn ategu’r addewid hwn.

“Mae’n rhoi’r dysgwr yn y canol. Mae’n symud i ffwrdd o addysg sy’n canolbwyntio ar nifer cyfyngedig o bynciau, gan ganiatáu i ddisgyblion ddysgu a ffynnu drwy Feysydd Dysgu a Phrofiad.

“Mae’n rhaid i’r momentwm newydd o fewn byd addysg yng Nghymru barhau ac rwy’n hyderus mai dyna fydd yn digwydd. Mae dyfodol ein pobl ifanc yn fater rhy bwysig i’w roi o’r neilltu. “