Nid yw’r banciau’n cael eu rhoi o dan ddigon o bwysau cystadleuaeth yn y farchnad cyfrifon cyfredol, yn ôl ymchwiliad gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).
Mae’r CMA wedi cyhoeddi ei gasgliadau cychwynnol yn yr ymchwiliad i’r banciau mawr yn y sector.
Darganfu’r CMA bod 57% o gwsmeriaid wedi bod gyda’u banc ers mwy na 10 mlynedd a 37% am fwy nag 20 mlynedd.
Mae cwsmeriaid yn ofni y bydd y broses o newid eu cyfrifon banc cyfredol i fanc newydd yn gymhleth, yn cymryd gormod o amser ac yn risg, meddai’r CMA.
Yn ôl y corff, mae cwsmeriaid sydd â gorddrafft yn llai tebygol o newid eu cyfrifon cyfredol na defnyddwyr eraill.
Ond fe allai cwsmeriaid sydd â gorddrafft sylweddol arbed £260 y flwyddyn os ydyn nhw’n newid banc, meddai’r ymchwiliad, tra bod cwsmeriaid eraill yn gallu arbed £70 y flwyddyn.
Dywedodd y CMA bod taliadau gorddrafft yn “gymhleth” a bod gwybodaeth a safonau yn gyfyngedig, gan ei gwneud yn anodd i gwsmeriaid gymharu gwasanaethau.
Mae’r CMA wedi awgrymu cyfres o argymhellion gan gynnwys atgoffa cwsmeriaid i adolygu’r gwasanaeth maen nhw’n ei gael gan y banciau a gorfodi banciau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â newid cyfrifon cyfredol.