Mae dyn 46 oed o Gaergybi wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth pensiynwr ddoe.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu  bod wedi dod o hyd i gorff dyn 66 oed a bod ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Stryd y Farchnad yng Nghaergybi am tua 4:30yp ddoe.

Yn ôl yr heddlu, mae ymchwiliadau’n parhau ac mae’r dyn sydd wedi cael ei arestio wedi’i gadw yn y ddalfa yng Nghaernarfon.

Apelio am wybodaeth

“Gallaf gadarnhau bod corff dyn wedi cael ei ganfod yn Fflat 1, 46 Stryd y Farchnad, Caergybi,” meddai’r Dirprwy Uwch Swyddog Ymchwilio, DCI Iestyn Davies, o Heddlu Gogledd Cymru.

Gellir mynd at y fflat yng nghefn Stryd y Farchnad sy’n cael ei adnabod yn lleol fel Lôn Bryn Dairy.

Ychwanegodd: “Mae gennyf ddiddordeb mewn siarad ag unrhyw un sy’n mynd i’r cyfeiriad hwn neu sy’n gwybod am unrhyw berson neu bobl sy’n gwneud. Fe allen nhw ein helpu â’n hymholiadau.

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn neu os ydych wedi gweld unrhyw ymddygiad amheus yn y lleoliad hwn neu’n agos iddo, cysylltwch â’r Heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111.”