Mae saith o albymau Geraint Jarman, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar feinyl, wedi eu rhyddhau yn ddigidol am y tro cyntaf heddiw (Ionawr 22).
Daw hyn wedi i Sain ryddhau’r albym ‘Tacsi i’r Tywyllwch’ yn ddigidol y llynedd.
Bellach mae ‘Gobaith Mawr y Ganrif’, ‘Hen Wlad fy Nhadau’, ‘Gwesty Cymru’, ‘Fflamau’r Ddraig’, ‘Diwrnod i’r Brenin’, ‘Macsen’ ac ‘Enka’, a gafodd eu rhyddhau gyntaf rhwng 1976 ac 1985 ar gael yn ddigidol.
‘Ailddarganfod Jarman’
Dyma rai o albymau mwyaf dylanwadol yr iaith Gymraeg a newidiodd gyfeiriad cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn y 70au, ac mae Geraint Jarman yn edrych ymlaen at gyflwyno’r gerddoriaeth i gynulleidfa ddigidol newydd.
“Mae cyhoeddi’r saith albym yma yn ddigidol yn wefreiddiol i mi”, meddai Geraint Jarman
“Mae’n golygu fod rhai pobl yn medru ailddarganfod fy miwsig a dwi’n gobeithio bydd ’na gynulleidfa newydd yn tyfu fydd yn medru profi fy ngwaith am y tro cynta.
“Mae’r albyms cynnar yma yn rhyw fath o Ulysses bu fi a’r hogie arno wrth ddod i adnabod y Gymru gyfoes drwy chwarae’n fyw a recordio.”
Gobaith Mawr y Ganrif
‘Gobaith Mawr y Ganrif’ oedd albym cyntaf Geraint Jarman, ac fe’i rhyddhawyd yn 1976, ond cafodd ei waith ei wrthod gan y cwmni recordiau Sain sawl gwaith.
“Roeddwn wedi bod yn danfon casetiau o fy ngwaith i Sain ac yn cael fy nhroi lawr bob tro,” meddai Gerain Jarman.
“Felly penderfynais recordio albym fy hun hefo help Des Bennett yn stiwdio Stacey Road, Caerdydd, hefo casgliad o gerddorion o Gaerdydd a’r Cymoedd.
“Fe’i recordiwyd mewn 20 awr ac yn y pen draw fe werthais i’r tâp i Huw Jones Sain ei hun… a dwi’n ddiolchgar iawn iddo fo am ein trin mor dda ac am gadw ffydd ynof i a fy ngwaith. Dyma lle nes i gwrdd â Tich Gwilym am y tro cynta.”
Hen Wlad fy Nhadau
Ar ôl rhyddhau ‘Tacsi i’r Tywyllwch’ yn 1977 rhyddhaodd Gerain Jarman ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn 1978 – y record gyntaf efo’r Cynganeddwyr, a recordiwyd yn stiwdio gyntaf Sain yn Gwernafalau.
“Doedd dim home comforts am y stiwdio yma – peiriant 8 track Ampeg un modfedd – hen un Pete Townsend o’r grŵp The Who a desg gan y peiriannydd Rosser, tebyg i’r un yn stiwdio Rockfield lle bu Sain yn recordio gynt. Roedd y Cynganeddwyr gwreiddiol wedi bod yn chwarae’n fyw dros Gymru gyfan am flwyddyn cyn recordio hon.”
Gwesty Cymru
Yn fuan ar ôl ’Steddfod Caernarfon 1979, yn dilyn y gig ‘Twrw Tanllyd’ cyntaf erioed, roedd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr yn ôl yn stiwdio yn recordi ‘Gwesty Cymru’.
“Dwi’n cofio John Morgan y chwaraeydd bas yn dweud yn gynnar yn y sesiwn ei fod yn ystyried hi’n ddyletswydd arnom i wella ar Hen Wlad fy Nhadau er mwyn cadw’r safon yn uchel.
“Ac felly y bu.”
‘Y man marw’
Erbyn yr wythdegau roedd Jarman yn cyffroi cynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad a chaneuon pwerus a chofiadwy yn siglo’r sîn yng Nghymru.
Ym mis Mawrth 1980 cafodd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr eu gwahodd i stiwdio newydd Sain i recordio albym arall.
“Roedd Sain yn awyddus i ni fynd yno i recordio hefo’n peiriannydd Simon Tassanno, megis arbrawf fel petai, i weld sut oedd y stiwdio’n gweithio ac yn ymateb a lle’r oedd y gwir sain,” meddai.
“Penderfynodd Sain ein bod y tro yma yn gorfod gweithio yn y nos o saith tan saith y bore. Roedd y stiwdio’n edrych yn grand ac yn foethus a drud hefo carped plysh mewn un hanner o’r stiwdio, y man marw fel petai, hefo man byw yr ochr arall â theils llechi a wal gerrig anferth.
“Roeddwn dan bwyse gyda’r caneuon a mond un cam ar y blaen i’r band drwy gydol yr amser. Ond i mi ma’r record [Fflamau’r Ddraig] yn un o’m ffefrynnau, ma’r sŵn yn wahanol hefo Niel White yn cymryd lle John Morgan ar y bas a oedd wedi penderfynu gadel.”