David Cameron
Mae Cyngor Mwslimaidd Prydain wedi ymateb yn feirniadol i’r Strategaeth Gwrth-eithafwyr y mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi’i gyhoeddi heddiw i fynd i’r afael â brawychiaeth.

Bydd strategaeth newydd y Llywodraeth yn cynnwys cyflwyno cyfres o fesurau i geisio atal pobol ifanc rhag cael eu radicaleiddio.

Bydd hyn yn cynnwys rhoi mwy o rym i rieni a sefydliadau cyhoeddus i ddiddymu pasborts pobol ifanc os oes risg y byddan nhw’n teithio dramor i ymuno â grwpiau fel y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Ond, mae Cyngor Mwslimaidd Prydain yn ofni y gallai’r strategaeth hon ddieithrio Mwslimiaid ymhellach, ac maen nhw’n credu fod y strategaeth wedi’i seilio ar “ddadansoddiad diffygiol.”

“Parhau ar lwybr diffygiol”

Mewn datganiad, fe wnaeth Dr Shuja Shafi, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimiaid Prydain gydnabod fod y “bygythiad o frawychiaeth yn un real a difrifol.”

Fe wnaeth groesawu’r strategaeth gwrth-eithafiaeth gan ddweud, “mae gormod o rieni Mwslimaidd yn poeni am atyniad Daesh ar bobol ifanc. Dyna pam rydym yn croesawu’r strategaeth gwrth-eithafiaeth a fydd yn herio radicaleiddio ar-lein.”

Ond, mae’n teimlo hefyd y gallai’r cynlluniau ddieithrio’r gymuned Fwslimaidd ymhellach. Mae’n nodi fod angen “wynebu’r her hon drwy ymgysylltu â phob rhan o gymdeithas.”

Fe ddywedodd fod y strategaeth yn “parhau i lawr yr un llwybr diffygiol, gan ganolbwyntio ar Fwslimiaid yn arbennig, ac yn seiliedig ar syniadau annelwig o werthoedd Prydain.

Mae’r posibilrwydd o ddiddymu pasborts yn “atgyfnerthu’r canfyddiadau bod rhaid i bob agwedd o fywyd Mwslimaidd gydymffurfio â phrawf i brofi eu teyrngarwch i’r wlad hon.”

Am hynny, mae Cyngor Mwslimaidd Prydain yn galw am “broses tryloyw yn amodol ar arolygiaeth farnwrol i atal unrhyw wahaniaethau ac ymyrraeth wleidyddol sy’n seiliedig gan lywodraethau tramor.”

Fe fyddan nhw’n cynnal cynhadledd fis nesaf i asesu’r ymatebion wrth ddelio â brawychiaeth.

Cyngor Mwslimaidd Cymru

Wrth siarad â golwg360, roedd Saleem Kidwai, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimaidd Cymru yn ofni y gallai’r strategaeth yma “ddieithrio Mwslimiaid.”

Roedd yn teimlo fod y strategaeth wedi’i chreu heb ymgynghori â’r gymuned Fwslimaidd, a bod yna ddim ystyriaeth i’r gymuned honno.

“Allwn ni ddim gwadu nad oes eithafwyr ymhob cymuned,” meddai gan ddweud y dylai’r strategaeth dargedu pob cefndir – nid Mwslimiaid yn unig.

“Mae angen delio â hyn [eithafiaeth] yn deg ar draws yr holl gymunedau.”

Fe fydd y strategaeth hefyd yn cynnwys gwaharddiad i atal pregethwyr radical rhag rhoi deunydd ar-lein, ac fe fydd cwmnïau rhyngrwyd yn gweithio’n agosach gyda’r heddlu i atal deunydd eithafol rhag cael ei ledaenu.