Mae toriadau’r Llywodraeth i’r diwydiant ynni adnewyddadwy yn anfon “neges ddifrifol” i wledydd eraill ynglŷn ag agwedd y DU i’r mater, yn ôl prif wyddonydd rhaglen amgylchedd y Cenhedloedd Unedig.

Wrth i wledydd eraill gofleidio ynni adnewyddadwy mae’r Prydain yn mynd i’r cyfeiriad arall, meddai’r Athro Jacqueline McGlade.

Mae penderfyniad diweddar y Llywodraeth i roi’r gorau i roi cymorth i gwmnïau ynni gwynt a solar wedi anfon y neges anghywir meddai.

Daeth ei sylwadau cyn cynhadledd ar newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig sy’n dechrau ym Mharis ar ddiwedd mis Tachwedd.

“Yr hyn syn siomedig yw pan ry’n ni’n gweld gwledydd fel y DU, sydd wedi bod yn arwain y ffordd o ran ynni adnewyddadwy, yn atal cymorth ond yn rhoi gostyngiadau treth i’r diwydiant tanwydd ffosil.

“Mae’n arwydd difrifol iawn,” ychwanegodd Jacqueline McGlade.