Twnnel Penmaenbach
Fe fydd un o dwneli’r A55 yng ngogledd Cymru yn cau dros nos am gyfnod o naw wythnos wrth i waith adnewyddu gael ei wneud fel rhan o brosiect tair blynedd Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith yn cynnwys gosod goleuadau newydd yn nhwnnel Penmaenbach, ac mae hyn yn rhan o gynllun gwerth £42m gan Lywodraeth Cymru i wella diogelwch y ffordd.

Trwy osod goleuadau LED yn y twneli, y bwriad yw gwella’r amodau i yrwyr yn ogystal â defnyddio llai o drydan. Mae goleuadau tebyg eisoes wedi’u gosod yn nhwneli Conwy a Phen-y-Clip.

Bydd y gwaith yn golygu cau’r ffordd i gyfeiriad y gorllewin dros nos, a chau un lôn yn ystod y dydd am gyfnod o naw wythnos.

Caiff y gwaith ei wneud yn ystod cyfnodau tawel er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar y traffig.

“Mae’r A55 yn hollbwysig ar gyfer economi Gogledd Cymru,” meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi.

“Mae’r twneli ar yr A55 yn gampweithiau peirianyddol, a bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddiogel, a hefyd yn lleihau’r angen i gau unrhyw ffyrdd yn ddirybudd, a’r tarfu o ganlyniad i hynny,” ychwanegodd.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys rhoi wyneb newydd ar y ffordd a gosod goleuadau newydd ar y stryd.