Cafodd cwmni Eurotunnel eu gorfodi i atal gwasanaethau dros dro ar ôl i gannoedd o fudwyr gael mynediad i’r platfform a’r trac yn Ffrainc dros nos.
Bu’n rhaid i’r cwmni – sy’n cynnal gwasanaethau Twnnel y Sianel – atal eu gwasanaethau o Folkestone, Caint a Coquelles yng ngogledd Ffrainc dros dro.
Dywedodd llefarydd ar ran Eurotunnel bod mudwyr yn defnyddio tactegau i ddenu sylw’r heddlu er mwyn caniatáu i eraill geisio croesi’r Sianel.
Mae gwasanaethau bellach wedi ail-ddechrau ond mae teithwyr wedi cael rhybudd i ddisgwyl oedi yn ystod y dydd.
Dros y penwythnos cyhoeddwyd bod nifer y mudwyr sy’n byw mewn gwersylloedd dros dro tu allan i Calais bellach wedi cyrraedd 6,000.
Mae o leiaf 15 o fudwyr wedi marw yn, neu ger, y twnnel ers i’r argyfwng ffoaduriaid ddechrau yn yr haf.