Mils Muliaina
Mae cyn seren tîm rygbi Seland Newydd wedi ei gael yn ddieuog o ymosodiad rhyw ar ddynes yng Nghaerdydd.

Cafodd Mils Muliaina ei gyhuddo o ymosod ar ddynes 19 oed yng nghanol dinas Caerdydd ym mis Mawrth eleni.

Cafodd ei arestio fis yn ddiweddarach yn syth ar ôl gêm yng Nghwpan Her Ewrop rhwng ei dîm ef, Connacht, a Chaerloyw.

Ond mae’r achos yn erbyn y gŵr 35 oed wedi cael ei ollwng ar ôl i farnwr yn Llys y Goron Caerdydd ddweud nad oedd digon o dystiolaeth yn ei erbyn.

‘Gwarthus’

Dywedodd cwnsler y diffynnydd John Charles Rees bod yr achos yn erbyn ei gleient yn un “gwarthus”.

“Mae e’n athletwr proffesiynol sydd wedi cael ergyd i’w enw da tra bod yr achwynydd yn aros yn ddienw,” meddai.

“Y cyhuddiad oedd ei fod wedi cyffwrdd â’i phen ôl hi am eiliad yng nghanol clwb nos brysur. Mae e wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le o’r cychwyn cyntaf.”