Cwpan y Byd ar ben am bedair blynedd arall i Sam Warburton a Chymru (llun: David Davies/PA)
Yr un hen stori, felly. Er iddyn nhw frwydro mor galed, dod mor agos, ac arwain y gêm nes y munudau olaf, colli eto oedd hanes Cymru yn erbyn un o gewri hemisffer y de pan oedd yr angen ar ei fwyaf.
Fe fydd bechgyn Warren Gatland yn dychwelyd i’w clybiau a’u rhanbarthau nawr ac yn gorfod gwylio gweddill Cwpan Rygbi’r Byd ar y soffa, yn dilyn y golled i Dde Affrica ddydd Sadwrn.
Nid Cymru oedd yr unig dîm o hemisffer y gogledd i brofi’r boen hwyr chwaith, wrth i’r Alban golli i Awstralia diolch i gic gosb ddadleuol gyda dwy funud i fynd yn eu gornest dydd Sul.
Ond wrth i’r trafod a’r dadansoddi barhau yn dilyn ymadawiad Cymru o’r gystadleuaeth, mae maswr y tîm Dan Biggar wedi erfyn ar Undeb Rygbi Cymru i wneud yn siŵr bod y staff hyfforddi i gyd yn aros yn eu lle.
‘Ergyd fawr’
Yn ôl Biggar, sydd wedi serennu yng Nghwpan y Byd eleni, fe fyddai’n “ergyd enfawr” i Gymru petai rhai o staff hyfforddi Gatland yn gadael ar ôl Cwpan y Byd.
Mae gan Gatland ei hun gytundeb sydd yn rhedeg nes Cwpan y Byd 2019 yn Siapan, ond mae cytundebau Shaun Edwards, Rob Howley, Robin McBryde a Neil Jenkins i gyd yn dod i ben dros y misoedd nesaf.
Mae Edwards yn enwedig wedi denu sylw Undeb Rygbi Lloegr, sydd yn debygol o wneud newidiadau i’w staff hyfforddi ar ôl methu â dianc o’u grŵp yng Nghwpan y Byd.
“Byddai’n ergyd enfawr petai ni ddim yn cadw’n gafael ar un ohonyn nhw, a dyna beth sydd wedi bod mor allweddol i ni, y cysondeb yna a pha mor gyfarwydd ydyn ni â beth sydd wedi bod yn digwydd,” esboniodd Biggar.
Ceisio cyrraedd y ffeinal
Fe gyfaddefodd maswr Cymru bod y tîm wedi methu â chyrraedd eu targed ar gyfer y twrnament, sef cyrraedd y ffeinal.
Mae sawl un eisoes wedi awgrymu bod grŵp heriol Cymru, pan fu’n rhaid iddyn nhw herio Awstralia, Lloegr a Fiji, yn ogystal â’r nifer uchel o anafiadau a gafodd y garfan wedi cyfrannu at eu methiant i fynd y tu hwnt i’r chwarteri.
Ond dyw Biggar ddim eisiau cydymdeimlad – dim ond amser i feddwl, delio â’r siom ac yna paratoi ar gyfer sut all y tîm wneud yn iawn am hynny yn y dyfodol.
“Mae e dal yn brifo ar hyn o bryd, ond mewn ychydig wythnosau fe allwn ni edrych nôl a bod yn eithaf balch o’n hymdrechion ni,” meddai’r maswr, a sgoriodd 56 o bwyntiau yn y gystadleuaeth.
“Yn y bôn fodd bynnag fe fethon ni yn ein targed, sef cyrraedd y rownd derfynol.”
Y De’n chwalu’r Gogledd
Er na fydd hi’n teimlo felly ar hyn o bryd, Cymru a’r Alban oedd y timau o hemisffer y gogledd allai fod fwyaf balch o’u perfformiadau yng Nghwpan y Byd eleni.
Cafodd y ddau dîm Ewropeaidd a gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf grasfa, gydag Iwerddon yn colli o 43-20 yn erbyn yr Ariannin a Seland Newydd yn chwalu Ffrainc o 62-13.
Am y tro cyntaf erioed does dim un tîm o hemisffer y gogledd wedi cyrraedd y rownd gynderfynol – a hynny wedi arwain unwaith eto am grafu pen ac ochneidio dros ba mor bell y tu ôl i wledydd y Bencampwriaeth Rygbi mae’r rheiny o’r Chwe Gwlad.
Mae cyn-fachwr Lloegr a’r sylwebydd Brian Moore yn un o nifer sydd wedi dadlau bod y ffordd mae gwledydd fel Seland Newydd yn meithrin talent ifanc yn llawer gwell ar gyfer datblygu chwaraewyr â sgiliau trin a thrafod y bêl.
Ond roedd cyn-flaenasgellwr Cymru Martyn Williams yn un o’r rhai oedd yn gweld llygedyn o obaith i’r crysau cochion, gan ddweud ar Scrum V y byddai’r rhan fwyaf o’r garfan bresennol dal yn chwarae yn 2019 ac yn llawer mwy profiadol erbyn hynny.
Fe fydd sylw Cymru’n troi nawr at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad unwaith eto, gan obeithio y bydd llawer o’u sêr mawr nôl o anaf erbyn hynny – a Gatland a’i staff hyfforddi dal yno er mwyn dechrau pennod newydd.