Aaron Ramsey - Seren yr Wythnos
Mae’r dathlu drosodd, Cymru wedi sicrhau eu lle yn Ewro 2016, a’r tîm a’r cefnogwyr bellach yn cynllunio eu tripiau i Ffrainc y flwyddyn nesaf ar gyfer y twrnament mawr.
Ond nid jyst wyth mis o aros sydd gennym ni o’n blaenau, wrth gwrs, gan fod y chwaraewyr nawr yn troi eu sylw nôl at eu clybiau a’r tymor sydd o’u blaenau.
Fe fydd rhai’n brwydro yn Ewrop, eraill yn mynd am y gynghrair, ambell un yn ceisio aros fyny, a sawl un yn anelu i ennill dyrchafiad gyda’u clybiau dros y misoedd nesaf.
A dros y misoedd nesaf fe fydd Cip ar y Cymry, fel yr arfer, yn cadw llygad ar sut mae’r Cymry yn ei wneud – gan groesi bysedd na fydd unrhyw anafiadau cas yn amharu ar eu tymor mawr cyn yr Ewros.
Gareth a chriw’r Uwch Gynghrair
Fydd hi ddim yn syndod i ddarllenwyr rheolaidd y golofn hon i weld ein bod ni’n dechrau’r wythnos ym Madrid, ble chwaraeodd Gareth Bale hanner gêm i Real Madrid wrth iddyn nhw drechu Levante o 3-0.
Cafodd seren Cymru ei eilyddio ar yr egwyl, gyda Madrid yn llygadu eu gêm Ewropeaidd yn erbyn PSG yr wythnos hon ac yn gorffwys yr ymosodwr ar ôl iddo chwarae 180 munud dros ei wlad yr wythnos diwethaf.
Draw a ni i Uwch Gynghrair Lloegr, ac ar ôl rhwydo i Gymru wythnos diwethaf fe sgoriodd Aaron Ramsey ei gôl gyntaf dros Arsenal y tymor hwn, wrth i’r Gunners drechu Watford 3-0, gydag ergydiad a wyrodd oddi ar yr amddiffynnwr ar ei ffordd i mewn.
Dechreuodd Paul Dummett ei gêm gyntaf dros Newcastle y tymor yma wrth iddyn nhw chwalu Norwich o 6-2 prynhawn Sul.
Ar y fainc oedd Ben Davies a Joe Allen wrth i Spurs a Lerpwl gael gêm gyfartal ddi-sgôr, gydag Allen yn dod ymlaen â naw munud yn weddill yng ngêm gyntaf Jurgen Klopp wrth y llyw.
Dechreuodd Wayne Hennessey a daeth Joe Ledley oddi ar y fainc i Crystal Palace wrth iddyn nhw golli 3-1 gartref i West Ham, a ddechreuodd gyda James Collins yng nghanol yr amddiffyn.
Ar y fainc yn unig fodd bynnag oedd Andy King i Gaerlŷr a James Chester i West Brom.
Y Bencampwriaeth
Yn y Bencampwriaeth fe chwaraeodd Sam Vokes gêm lawn i Burnley wrth iddyn nhw drechu Bolton o 2-0, ac roedd Chris Gunter hefyd yn nhîm Reading a enillodd o 1-0 yn erbyn Morgan Fox a Charlton.
Di-sgôr oedd hi i glybiau Emyr Huws a Jazz Richards, tra bod Andrew Crofts (Brighton) a Jonathan Williams (Nottingham Forest) wedi dod ymlaen fel eilyddion wrth iddyn nhw adennill ffitrwydd.
Eilydd yn unig oedd Stephen Doughty i QPR, tra bod rhai o’r Cymry eraill megis David Cotterill, Dave Edwards a Hal Robson-Kanu yn absennol gydag anafiadau.
Collodd Aberdeen eu lle ar frig Uwch Gynghrair yr Alban dros y penwythnos ar ôl i Ross County eu trechu o 2-0, gydag Ash Taylor a Danny Ward yn chwarae’r gêm gyfan i’r Dons, a cholli o 2-0 oedd hanes Owain Fôn Williams gydag Inverness hefyd yn erbyn Kilmarnock.
Ac yng Nghynghrair Un fe gollodd Walsall eu lle ar y brig ar ôl i Chesterfield gipio buddugoliaeth annisgwyl oddi cartref o 2-1. Tom Bradshaw greodd gôl Walsall yn y munud olaf ond roedd hi’n rhy hwyr i wneud gwahaniaeth.
Seren yr wythnos – Aaron Ramsey. Ei ail gôl o fewn wythnos, ac er nad oedd yr un o’r ddau yn rhai gwych, y peth pwysig yw’r hwb fydd hynny’n ei roi i’w hyder.
Siom yr wythnos – Wayne Hennessey. Ildio’i goliau cyntaf dros Palace y tymor yma ac mewn gwirionedd fe allai fod wedi arbed un neu ddau ohonynt, ond er tegwch roedd ei dîm lawr i ddeg dyn.