De Affrica 23–19 Cymru

Mae Cymru allan o Gwpan y Byd ar ôl colli yn erbyn De Affrica yn rownd yr wyth olaf yn Twickenham brynhawn Sadwrn.

Roedd Cymru ar y blaen gyda phum munud i fynd ond cipiodd cais hwyr Fourie du Preez y fuddugoliaeth yn greulon o’u gafael.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Cymru ar dân ond diflannodd cyfle cynnar am gais pan fethodd Gethin Jenkins ganfod Tyler Morgan gyda phas hir.

Ond er fod Cymru yn edrych yn dda yn hanner De Affrica roeddynt yn ildio gormod o giciau cosb yn eu hanner eu hunain. Roedd North ac Alun Wyn yn euog am droseddu yn ardal y dacl a rhoddodd cicio cywir Handre Pollard chwe phwynt o fantais i Dde Affrica.

Cyfnewidiodd Dan Biggar a Pollard dri phwynt yr un wedi hynny cyn i Gareth Davies groesi am gais cyntaf y gêm wedi deunaw munud. Casglodd Biggar ei gic ei hun cyn rhyddhau’r mewnwr i sgorio, 9-10 y sgôr wedi trosiad Biggar.

Adferodd Pollard fantais y Boks gyda’i bedwaredd cic lwyddiannus yn fuan wedyn ond Biggar a Chymru gafodd y gair olaf cyn yr egwyl. Er i’r maswr daro un o’r pyst gyda chic gosb o bellter fe ddaeth ail gyfle yn fuan wedyn wrth iddo drosi gôl adlam

Ail Hanner

Er i Biggar ymestyn mantais Cymru i bedwar pwynt gyda chic gosb arall yn gynnar yn yr ail hanner, doedd dim dwywaith mai De Affrica oedd y tîm gorau wedi’r egwyl.

Cafodd rhan helaeth o’r gêm ei chwarae yn hanner Cymru a doedd fawr o syndod gweld De Affrica yn ôl ar y blaen gyda chwarter y gêm i fynd diolch i gôl adlam a chic gosb gan Pollard.

Yn ôl y daeth Cymru serch hynny ac roeddynt ar y blaen gyda chwarter awr i fynd diolch i gic arall o droed Biggar.

Bu rhaid i Gymru amddiffyn yn ddewr wedi hynny i aros ar y blaen ond er iddynt wneud hynny am gyfnod, fe lwyddodd du Preez i groesi yn y diwedd.

Cafodd Alex Cuthbert ei demtio oddi ar ei asgell i daclo Duane Vermeulen ond llwydodd wythwr y Boks i ryddhau’r bêl tu ôl i’w gefn i roi cais syml ar blât i’r mewnwr profiadol.

Yr un hen stori i Gymru yn erbyn tîm o hemisffer y de felly, agos ond ddim cweit ddigon da.

.

De Affrica

Cais: Fourie du Preez 75’

Ciciau Cosb: Handre Pollard 9’, 13’, 17’, 21’, 62’

Gôl Adlam: Handre Pollard 52’

.

Cymru

Cais: Gareth Davies 18’

Trosiad: Dan Biggar 19’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 15’, 47’, 64’

Gôl Adlam: Dan Biggar 40’