Mae tri pherson wedi cael eu harestio yng Nghaerdydd yn dilyn honiadau bod babi wedi cael ei werthu i gwpl.

Dywedodd ditectifs fod y fam, sy’n dod o Sbaen, wedi dweud yn wreiddiol bod ei mab wedi marw wrth dderbyn llawdriniaeth mewn ysbyty yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl rhai adroddiadau, mae heddlu Sbaen yn credu bod y bachgen bach chwe wythnos oed wedi cael ei werthu am hyd at £11,000.

“Mae tri unigolyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad hwn,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r De.

“Mae dwy ddynes, sy’n 19 a 26 oed, a dyn, 25 oed, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth aros am ymholiadau pellach.

“Mae’r bachgen bach chwe wythnos oed yn ddiogel ac yng ngofal yr awdurdod lleol.”

Fe wnaeth yr heddlu yn Sbaen roi gwybod i swyddogion ym Mhrydain am y mater yn dilyn amheuon am enedigaeth y babi a honiadau’r fam ei fod wedi marw yn 15 diwrnod oed yn dilyn llawdriniaeth am anaf i wythïen.

Credir bod y fam o Romania, tra bod y ddau arall a gafodd eu harestio yn dod o Sbaen.

Mae profion DNA yn cael eu gwneud nawr i weld pwy yw tad y plentyn.