Peter Andre
Bydd yn rhaid i ITV2 dalu iawndal o £4 miliwn i gynhyrchydd rhaglenni realaeth am fywyd y canwr pop Peter Andre.

Bu Neville Hendricks yn cynhyrchu’r rhaglenni i ITV2 cyn i’w berthynas gyda Peter Andre fynd mor sur nes i’r sianel benderfynu rhoi terfyn ar ei gytundeb.

Aeth y ffrae i’r Uchel Lys a dywedodd y Barnwr Flaux bod Peter Andre yn “dyst anfoddhaol iawn” a’i fod wedi cyflwyno tystiolaeth “nad oedd yn wir”.

Wythnos diwetha’ fe ddyfarnodd y Barnwr Flaux bod “iawndal sylweddol” yn ddyledus i Hendricks, a heddiw daeth i’r amlwg fod y swm yn £4 miliwn.

Honiadau carlamus

Roedd Peter Andre wedi honni wrth y llys ei fod yn ofni y byddai Neville Hendricks yn ymosod yn gorfforol arno.

Hefyd bu i Andre honni bod Hendricks wedi bygwth lladd ei asiant, Claire Powell.

Ond yn ôl y Barnwr Flaux roedd yr honiad gan Peter Andre bod Hendricks wedi bygwth bywyd ei asiant yn “gelwydd llwyr”.

Yn ôl y Barnwr roedd Hendricks yn “dyst gonest yn y bôn”.

Daeth y Barnwr Flaux i’r casgliad fod ITV2 ar fai am derfynu cytundeb Hendricks i gynhyrchu sioeau realiti Peter Andre, a bod “iawndal sylweddol” yn ddyledus iddo.

Daeth Peter Andre i enwogrwydd yn wreiddiol am ganu ‘Mysterious Girl’ yn 1996.