Peter Hancock
Mae dyn busnes llwyddiannus wedi rhoi £506,000 i Brifysgol Aberystwyth a hynny hanner canrif ar ôl graddio yno.

Ar ôl graddio mewn Daeareg yn 1962 fe ddechreuodd Peter Hancock ar yrfa yn fapiwr ac ymgynghorydd peirianneg.

Bu i Awstralia, Seland Newydd, America a Chanada yn ystod ei yrfa.

Bydd ei arian i’r brifysgol yn cael ei ddefnyddio i sefydlu cronfa ysgoloriaeth newydd ar gyfer myfyrwyr ail flwyddyn “sy’n dangos potensial i fod o fudd i gymdeithas drwy gwblhau eu Graddau Anrhydedd neu gyfwerth yn llwyddiannus”.

Dywedodd Peter Hancock, sydd hefyd wedi gweithio fel darlithydd, ei fod eisiau rhoi rhywbeth nôl i’r brifysgol am na fyddai wedi gallu bod mor llwyddiannus yn ei yrfa oni bai am ysgoloriaeth a gafodd ef i gwblhau ei astudiaethau.

Diolchodd Prifysgol Aberystwyth iddo am y rhodd, gan ddweud y byddai’r ysgoloriaeth yn sicrhau bod “myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol” yn gallu parhau i astudio.

Aber-ijini

Yn ystod ei yrfa mewn llywodraeth, diwydiant ac ymgynghoriaeth bu Peter Hancock yn gweithio ar brosiectau mwyngloddio, pibelli nwy mawr, trydan dŵr a dyfrhau, gweithfeydd gwaredu elifiant a sefydlogrwydd tir.

Bu’n athro, darlithydd, ymchwilydd ac awdur ar y canfyddiadau a gwirioneddau datblygu adnoddau, gan arwain at yrfa yn ddiweddarach fel hwylusydd yn datrys gwrthdaro ar ddatblygu adnoddau amgylcheddol, a materion hiliol ac anfantais frodorol.

Mae hefyd wedi gweithio gyda phrosiectau yn ymwneud â chynnyrch llaeth, ffermio ceirw a defaid a rheoli eiddo, yn ogystal ag adeiladu cytgord rhyng-hiliol a rhyng-lwythol er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl frodorol yr Aborijini.

“Yr elfen allweddol drwy gyflwyno’r rhodd hon yw rhoi rhywbeth yn ôl i fywyd myfyriwr ac i’r Brifysgol a roddodd, hanner canrif yn ôl gymaint i mi yn academaidd, yn gymdeithasol ac o ran datblygu fy sgiliau arweinyddiaeth a busnes,” meddai Peter Hancock, sydd bellach yn byw yn Seland Newydd.

“Ar yr un pryd, rwy’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth drwy ddarparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr addawol, sydd mewn angen er mwyn eu galluogi i ddechrau gyrfaoedd gwerth chweil sy’n cyfrannu at gymdeithas ac felly, yn eu tro, yn helpu pobl eraill.”