Fe fydd rhai o yrwyr trenau Arriva Cymru yn cynnal streic 48 awr wythnos nesaf wrth iddyn nhw bwyso ar y cwmni am gyflogau gwell.
Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) y byddai eu haelodau nhw yn streicio ar 22 a 23 Hydref gan ddweud bod Arriva yn “llusgo eu traed” wrth ddyfarnu cyflogau.
“Dyw RMT ddim yn fodlon dioddef tactegau oedi Arriva Trains Wales mwyach. Mae gyrwyr trên yn haeddu cynnig cyflog teg a gwelliannau go iawn i’w hamodau gwaith,” meddai ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Mick Cash.
“Does gennym ni ddim dewis nawr ond galw streic er mwyn dangos i’r cwmni na allan nhw drin gyrwyr â dirmyg dros fater sydd mor bwysig â thâl ac amodau gwaith.”