Bydd Aelodau Senedd Cymru yn cael codiad cyflog o 2.4% yn y flwyddyn newydd.

Daw hyn wedi i gyfnod o rewi cyflogau Aelodau o’r Senedd yn sgil y pandemig, ddod i ben.

Roedd disgwyl i aelodau gael codiad cyflog o 4.4% eleni, ond dywedodd y corff annibynnol sydd yn gyfrifol am benderfynu faint mae’r aelodau yn ennill, y byddai’n “anodd cyfiawnhau” y cynnydd o ystyried y rhagolygon economaidd gwael a achoswyd gan Covid-19.

Fodd bynnag, mae’r corff annibynnol wedi awgrymu cynnydd o £1,624 ym mis Mai’r flwyddyn nesaf, gan olygu y byddai Aelod o’r Senedd yn cael £69,273 o gyflog y flwyddyn.

Yn y cyfamser ni fydd Aelodau Seneddol San Steffan yn derbyn codiad cyflog – roedd disgwyl iddyn nhw gael codiad cyflog o fwy na £3,000 cyn i’r corff annibynnol wneud tro pedol.

Awgrymwyd nad oedd codiad cyflog yn addas ar ôl i’r Canghellor rewi cyflogau’r sector gyhoeddus.

Mae rhai aelodau o Senedd Cymru sydd â chyfrifoldebau ychwanegol yn cael cyflogau uwch:

  • Prif Weinidog: £151,535.
  • Gweinidogion: £108,238
  • Dirprwy Weinidogion: £92,003
  • Cadeiryddion pwyllgorau: £83,344 neu £78,647 (yn dibynnu ar y pwyllgor)
  • Y Llywydd: £92,003
  • Arweinwyr y gwrthbleidiau: rhwng £86,590 a £108,230 (yn dibynnu ar faint o aelodau sydd ganddyn nhw).

‘Amgylchiadau eithriadol’

Dywedodd Cadeirydd y corff annibynnol sy’n barnu ar gyflogau bod y coronafeirws wedi dylanwadu yn fawr ar y penderfyniad.

“Mae amgylchiadau eithriadol pandemig y coronafeirws yn golygu nad oedd y bwrdd yn credu ei bod yn rhesymol i aelodau weld eu cyflog yn codi 4.4% eleni tra bod llawer o bobol yng Nghymru ar ffyrlo neu wedi colli eu swyddi, mae hefyd cymaint o ansicrwydd economaidd,” meddai Dr Elizabeth Haywood.

“Ond mae’n rhaid i’r bwrdd osod mynegai ar gyfer tymor pum mlynedd y chweched Senedd, ac rydym yn ystyried cysylltu cyflogau Aelodau a chyflogau cyfartalog gweithwyr Cymru’r flwyddyn nesaf.”