Mae Prif Weithredwr y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi rhybuddio y gallai llacio cyfyngiadau coronafeirws dros y Nadolig arwain at “tswnami didostur” o achosion newydd.

Dywedodd y Fonesig Donna Kinnair y bydd “teithio ac ymweld â theulu… yn sicr o arwain at fwy o achosion, mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd a mwy o farwolaethau”.

Mae pedair gwlad y Deyrnas Unedig wedi cytuno i barhau gyda llacio’r cyfyngiadau dros y Nadolig rhwng Rhagfyr 23-27.

Bydd y cyfyngiadau teithio yn cael eu llacio ar draws y pedair gwlad ac aelodau dwy aelwyd yn unig fydd yn cael dod ynghyd yng Nghymru i ffurfio swigen dros yr ŵyl.

Yn dilyn y Dolig mae Cymru yn wynebu clo mawr am gyfnod amhenodol, o Ragfyr 28 ymlaen. 

Ac mae Gogledd Iwerddon hefyd wedi cyhoeddi y bydd chwe wythnos o gyfyngiadau llym yno o ddydd San Steffan ymlaen.

Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi gwrthod diystyru’r posibilrwydd o gyflwyno cyfyngiadau.

Bydd 68% o boblogaeth Lloegr yn byw dan gyfyngiadau Haen 3 o ddydd Sadwrn, Rhagfyr 19, ymlaen.

‘Mwy o achosion, mwy o bwysau a mwy o farwolaethau’

Gydag wythnos i fynd tan y Nadolig, dywedodd y Fonesig Donna Kinnair, Prif Weithredwr y Coleg Nyrsio Brenhinol, y dylai gweinidogion roi cyngor “ffres a manylach”.

“Ar ôl blwyddyn anodd, greddf pawb yw bod eisiau bod gyda’i gilydd a gweld anwyliaid – yn enwedig y rhai sy’n byw ymhell ar wahân neu sy’n teimlo’n ynysig. Ond mae’r hyn sydd yn y fantol yn dod yn hollol eglur,” meddai.

“Bydd teithio ac ymweld â theulu ar yr adeg yma o’r flwyddyn yn sicr o arwain at fwy o achosion, mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd a mwy o farwolaethau.

“Drwy droi’r ail a’r drydedd don yn tswnami didostur, byddem yn dechrau 2021 yn y ffordd waethaf bosibl.”

Ychwanegodd na fyddai nyrsys yn mwynhau’r Nadolig “gan wybod beth sy’n eu disgwyl ym mis Ionawr”.