Yr Atom
Bydd Canolfan Gymraeg newydd, Yr Atom. Yng Nghaerfyrddin yn cael ei agor heddiw gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Nod y Ganolfan fydd dwyieithogi tref Caerfyrddin gan sicrhau y bydd y Gymraeg i’w gweld a’i chlywed yn amlach ar hyd a lled y dre.
Y bwriad yw creu “cymuned Gymraeg fyrlymus” lle bydd trigolion y dref a’r cyffiniau, o bob oedran a chefndir, yn gallu cymdeithasu drwy’r Gymraeg, ac y bydd y Ganolfan hefyd yn sbardun ar gyfer cynyddu gweithgarwch Cymraeg mewn mannau eraill ar draws y dref.
Bydd Yr Atom, mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir a Menter Gorllewin Sir Gâr, yn gweithio’n agos gyda’r gymuned fusnes leol, grwpiau a mudiadau lleol i ddarparu rhaglen o gyrsiau iaith yn ogystal â nifer o weithgareddau hamdden.
‘Digwyddiadau cymdeithasol’
Ym mis Rhagfyr y llynedd, cafodd grant o £300,000 gan Gronfa Fuddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru ei roi i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i brynu adeilad er mwyn sefydlu Canolfan Gymraeg yng nghanol Caerfyrddin.
Aeth y Brifysgol ymlaen i brynu adeilad ar Stryd y Brenin gan fynd ati i’w weddnewid i gynnwys caffi, stiwdio recordio ac ystafelloedd er mwyn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a hamdden.
Mae nifer o gymdeithasau a grwpiau cymunedol, fel Merched y Wawr eisoes wedi dechrau defnyddio’r Ganolfan.
‘Cymuned Gymraeg fyrlymus’
“Mae Yr Atom yn cynnig cyfle i holl fudiadau a chymdeithasau Cymraeg yr ardal ddod at ei gilydd i greu cymuned Gymraeg fyrlymus o fewn un adeilad,” meddai Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r person sy’n arwain y prosiect ar ran y Brifysgol.
“Yn wir, dymuniad y Brifysgol yw gweld Caerfyrddin yn tyfu’n dref ddwyieithog gyda’r Atom yn datblygu’n ffocws ar gyfer y Gymraeg o fewn y dref. Rydym hefyd yn hyderus y caiff ei phresenoldeb effaith gadarnhaol ieithyddol ar sefydliadau a busnesau eraill o fewn y dref,” meddai Gwilym Dyfri Jones.
‘Hwb i’r Gymraeg’
Dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Mae’n bleser bod yma yng Nghaerfyrddin i agor ‘Yr Atom’ yn swyddogol – un o 10 canolfan newydd yr ydym yn ariannu ar draws Cymru.
“Ein gweledigaeth ar gyfer y canolfannau hyn oedd i weld hwb i’r Gymraeg ar gyfer gweithgarwch ehangach o amgylch y cymunedau ac mae’n arbennig o dda i weld pa mor wir ydi hynny yma yn barod, gyda chymaint o bartneriaid a grwpiau cymunedol yn rhan o wreiddiau’r lle. Da gweld bod lle modern a chysurus ar gyfer pobl ifanc i gymdeithasu, dysgu a mwynhau, a hynny oll trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae’n braf clywed hefyd fod y Ganolfan yn ymestyn allan i’r gymuned o’i hamgylch ac yn cynnig darpariaeth Cymraeg yn y gweithle wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer anghenion unigol cwmnïau lleol. Hwb mawr i’r iaith Gymraeg yng Nghaerfyrddin a Gorllewin Cymru yn gyffredinol.”
Yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer cynnal gweithgareddau mae Yr Atom hefyd yn gartref i nifer o fentrau eraill, megis Menter Gorllewin Sir Gâr; Cymru FM a Chylch Meithrin Caerfyrddin.
Bydd Clwb ieuenctid wythnosol yn dechrau yn fuan yn Yr Atom a fydd yn cael ei redeg o dan adain Menter Gorllewin Sir Gâr, Urdd Gobaith Cymru a Chyngor Sir Gâr.
Bydd hefyd cyfle i roi’r Byd yn ei le yn Y Gofod – sef ystafell gymdeithasu’r Atom – wrth i siaradwyr Cymraeg o bob gallu ddod at ei gilydd yn “y gornel clonc.”
‘Y Gymraeg yn perthyn i bawb’
Iola Wyn, cyn newyddiadurwraig gyda BBC Cymru Wales sydd wedi’i phenodi yn rheolwr Yr Atom.
“Rwyf wedi mwynhau pob munud o’m misoedd cyntaf yn Yr Atom”, meddai Iola. “Mae Caffi’r Atom wedi bod yn boblogaidd iawn ac un o’r uchafbwyntiau i mi yw’r cyfle i gymdeithasu gydag amrywiaeth o bobl o bob oed, yn siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb, ac mae’r ymateb gwych rydw i wedi’i gael yn yr Atom hyd yn hyn yn sicr yn amlygu hynny,” atega.
Mae Yr Atom yn hwb arall i Gaerfyrddin yn dilyn penderfyniad Awdurdod S4C i adleoli pencadlys y Sianel i gampws y Brifysgol yn y dref.