Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi y bydd Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli, yn cau dros dro oherwydd heriau staffio.

Bydd yr Uned yn cau o ddydd Sul (Rhagfyr 13) am dair wythnos.

Nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi datgelu os yw’r heriau staff wedi’u hachosi gan bandemig y coronaferiws.

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym wedi penderfynu cau Uned Mân Anafiadau Ysbyty Bryn Beryl dros dro mewn ymateb i heriau staffio presennol.

“Bydd yr Uned yn cau dros dro o ddydd Sul 13 Rhagfyr am dair wythnos.

“Byddwn yn adolygu hyn yn gyson ac yn gobeithio gallu dychwelyd i oriau agor arferol o Ionawr 3, 2021.

“Hoffem ymddiheuro am unrhyw amhariad y gallai hyn ei achosi, ond ein blaenoriaeth yw gallu darparu gwasanaethau diogel ac effeithiol i gleifion a sicrhau lles ein saff ar yr un pryd.

“Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn darparu gwasanaeth Mân Anafiadau â staff cymwys sy’n ddiogel i’n cleifion.

“Hoffem atgoffa’r gymuned leol bod Uned Mân Anafiadau Ysbyty Alltwen yn dal ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.”

Cyhoeddwyd yn ddiweddar bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bellach allan o fesurau arbennig.