Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi dweud bod Cymru’n wynebu “sefyllfa ddifrifol iawn” o ran cyfraddau Covid-19.

Daw hyn wedi i grwp arbenigol “gynghori’n gryf” na ddylai pobol yng Nghymru ddod at ei gilydd dros y Nadolig wrth i achosion coronafeirws barhau i godi.

Mae cyngor gan Grŵp Cynghori Technegol (TAG) Llywodraeth Cymru yn awgrymu y byddai’n well i bobol ohirio dathlu’r Nadolig gyda’i gilydd.

Dywed adroddiad gan y Grŵp: “Os gall pobol osgoi gweld eraill dros gyfnod y Nadolig, efallai drwy ohirio dathliadau tan yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf, neu gyfarfod o bell, yna cynghorir hyn yn gryf.”

Mae pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno ar set o drefniadau cyffredin i lacio’r rheolau dros gyfnod o bum niwrnod, gan alluogi teuluoedd i ddod at ei gilydd i ddathlu’r Nadolig.

Clo llawn ar ôl y Nadolig?

Er i Frank Atherton ddweud nad oedd unrhyw gynlluniau i ailfeddwl am lacio’r trefniadau cyffredin dros gyfnod yr ŵyl, dywedodd y gellid cyflwyno cyfyngiadau llymach yng Nghymru y naill ochr a’r llall i’r Nadolig.

Dywedodd Dr Atherton: “Byddai’r posibilrwydd o gyfyngiadau clo llawn dros y Nadolig yn annymunol, rwy’n meddwl, i bawb.

“Ond byddai’n rhywbeth, y tu hwnt i’r Nadolig, efallai y bydd angen i ni ddod yn ôl ato, o ran pa gyfyngiadau pellach sydd eu hangen. Bydd hynny’n cael ei benderfynu’n bennaf gan ble’r ydym adeg y Nadolig.”

“Bydd yn rhaid i ni weld ble mae’r feirws yn trosglwyddo, beth yw’r cyfraddau, sut olwg sydd ar sefyllfa’r ysbyty, ond mae’n ddigon posibl bod angen i ni feddwl am gyfyngiadau pellach y tu hwnt i’r Nadolig.”

Ystyried cyfyngiadau pellach cyn y Nadolig

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes angen cyflwyno cyfyngiadau cyn cyfnod yr ŵyl, meddai’r Prif Swyddog Meddygol.

“Rydyn ni mewn perygl o fynd i mewn i gyfnod y Nadolig gyda chyfraddau llawer uwch nag yr oeddem ni wedi ei ragweld neu wedi gobeithio,” meddai.

“Mae gweinidogion yn ystyried pa bethau pellach a allai fod yn bosibl yn y cyfnod cyn y Nadolig.

“Mae angen ystyried hynny.”

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, eisoes wedi awgrymu bod yna “bosibilrwydd” y bydd yn rhaid edrych eto ar y rheolau dros y Nadolig.

‘Ailfeddwl cynlluniau’r Nadolig’

“Bydd llawer ohonom wrthi yn gwneud cynlluniau ar gyfer y Nadolig. Bydd eleni’n wahanol iawn i ddathliadau’r gorffennol,” meddai Dr Frank Atherton.

“Efallai bod rhai ohonom yn ailfeddwl ein cynlluniau am y Nadolig oherwydd y sefyllfa ddifrifol iawn sy’n ein hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd ac i gadw ein teuluoedd yn ddiogel,” meddai’r Prif Swyddog Meddygol.

Eglurodd ei fod wedi penderfynu peidio â theithio i Ogledd Iwerddon a gogledd Lloegr i ymweld â’i deulu dros y ŵyl.

“Dim ond un Nadolig yw hwn, na fydda i’n ei wario gyda fy mhlant. Fy mhrif flaenoriaeth yw cadw fy nheulu cyfan yn ddiogel ac yn iach.

“Y ffordd orau y gallaf wneud hynny yw aros gartref a chael Nadolig bach eleni.

“Mae fy neges ar hyn yn syml – peidiwch â chymysgu â phobol y tu allan i’ch cartref rhwng nawr a’r Nadolig.

“Yr anrheg orau y gallwn ei rhoi i’n teuluoedd eleni yw Nadolig di-goronafeirws.”

Achosion yn parhau i gynyddu

Mae achosion yn parhau i gynyddu mewn 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol.

Bellach mae cyfradd genedlaethol Cymru yn 350 o achosion o’r coronafeirws fesul 100,000 o bobol, bron iawn – gyda deg ardal â chyfradd o dros 400 i bob 100,000 o bobol.

Eglurodd y Prif Swyddog Meddygol fod y feirws yn lledaenu’n gyflymach na’r disgwyl.

“Mae’r coronafeirws ar gynnydd ar draws y wlad,” meddai.

“Mae’r feirws yn lledaenu’n gyflymach nag y gallem fod wedi’i ragweld ac yn sicr yn gyflymach nag yr ydym wedi’i weld drwy fisoedd yr hydref.

“Rydym yn parhau i weld cynnydd ym mhob ardal awdurdod lleol, bron.”

Pwysau ar y system

Dywedodd Dr Atherton bod “trosglwyddo cymunedol eang” o Covid-19 yn “achosi pwysau enfawr ar y system” yng Nghymru.

Mae’r niferoedd yn golygu efallai y bydd angen i GIG Cymru “feddwl o ddifrif” a all barhau i ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol o ystyried pwysau ar welyau gofal critigol, meddai.

“Efallai y byddwn yn dod at y pwynt y gallai fod yn rhaid i ni newid y polisi hwnnw o ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol yng Nghymru. Dyna a wnaethom yn y cyfyngiadau symud ym mis Chwefror a mis Mawrth.”

Pryder am bobol ifanc a phobol hŷn

Aeth Dr Frank Atherton ymlaen i siarad am y cynnydd yn y nifer yr achosion ymysg pobol dan 25 oed a phobol dros 60 oed.

“Rydym yn edrych ar y ddau grŵp oedran hyn yn arbennig oherwydd yn ystod y pandemig – a ledled y byd – rydym wedi gweld heintiau’n dechrau ymhlith pobol iau ac yn lledaenu’n gyflym i bobol hŷn,” meddai.

“Mae hyn yn achosi pwysau difrifol ar ein Gwasanaeth Iechyd yn enwedig yn y de a’r cymoedd.

“Mae pobol hŷn yn tueddu i fod mewn mwy o berygl o ddatblygu salwch mwy difrifol ac, yn anffodus, maent yn fwy tebygol o fod angen triniaeth ysbyty.”

Mae mwy na 1,800 o gleifion yn gysylltiedig â chorafeirws yn yr ysbyty – mae hyn yn cynnwys pobol ag achosion sydd wedi eu cadarnhau, achosion tebygol, a phobol sydd yn gwella o’r feirws.