Mae angladd wedi cael ei gynnal i fam a meibion fu farw o’r coronafeirws dros gyfnod o bum diwrnod.

Bu farw Gladys Lewis, 74, o Pentre, Y Rhondda, ddydd Iau (Hydref 29), yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cyn marwolaeth ei mab, Dean, 44, a oedd yn dad i dri o blant, yn ei gartref yn Nhreorci. Bu farw Darren, 42, nos Lun (Tachwedd 2).

Roedd y tri wedi profi’n bositif am y coronafeirws cyn marw.

Ddydd Iau (Tachwedd 19) bu galarwyr yn llenwi’r strydoedd y tu allan i Eglwys Sant Pedr yn Pentre i wrando ar yr angladd drwy uchelseinyddion.

Diolchodd y teulu i Rob ac Alex Thomas Brown, a gyflenwodd y system sain i ganiatáu i bobl wrando ar y gwasanaeth y tu allan i’r eglwys.

Roedd y teulu, a oedd y tu mewn i’r eglwys, wedi dymuno i angladdau Gladys Lewis a’i meibion gael eu cynnal ar yr un pryd fel eu bod yn gallu bod gyda’i gilydd.

Cafodd y tri arch eu cludo i Eglwys Sant Pedr y noson cyn yr angladd.

Cafodd y tri eu disgrifio fel aelodau annwyl o’r teulu a’r gymuned leol.

Dywedodd y gweinidog Haydn England-Simon wrth y teulu: “Rydych chi’n iawn pan yr ydych yn dweud na ddylai neb byth fynd drwy’r hyn rydych chi wedi bod yn mynd drwyddo.”

Galwodd y teulu ar bobol i “chwarae eu rhan” wrth ymladd yn erbyn y coronafeirws a dilyn y rheolau i gyfyngu ar ei ledaeniad.

Roedd Gladys Lewis wedi bod yn briod â’i gŵr David Lewis, 81, am 44 mlynedd ar ôl i’r ddau gyfarfod yn Blackpool.

Disgrifiwyd Gladys fel mam-gu falch, a oedd yn gwnïo dillad i’r “rhai bach” ac yn cadw ei chopi ei hun o’u tystysgrifau geni yn ei bocs cof.

Cyfarfu’r tad i dri, Dean Lewis, â’i wraig Claire, 44, yn yr ysgol, gan ddechrau canlyn yn 1991.

Roedd ganddo berthynas agos â’i feibion Danny, Declan a Darian, oedd yn rhannu ei gariad tuag at Glwb Pêl-droed Lerpwl.

“Bydd pawb a oedd yn ei adnabod yn gweld eisiau Dean.”

Roedd Darren Lewis, oedd â Syndrom Down, hefyd yn gefnogwr pêl-droed brwd a byddai’n gwylio Cymru a Chaerdydd yn rheolaidd.

Roedd wrth ei fodd yn bod yn rhan o achlysuron teuluol ac yn mwynhau bod yn ganolbwynt y sylw.

“Ysbryd gref Darren oedd yn tynnu pobl ato ac yn ei wneud pwy ydoedd – cymeriad cryf, penderfynol a oedd yn cael ei garu gan gynifer,” meddai Haydn England-Simon.

Yn nhrefn y gwasanaeth, ysgrifennodd y teulu: “Fel teulu ni allwn fynegi faint mae eich cariad, eich negeseuon a’ch cefnogaeth yn ei olygu i bob un ohonom.

“Hoffem ddiolch i bob un ohonoch. Diolch yn arbennig i Haydn England-Simon ac i bawb sydd wedi cefnogi’r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.”