Dros y pum mis nesaf mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwario £450,000 o arian y Loteri Genedlaethol i hybu iechyd meddwl pobol drwy Gelf.
Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Cyngor yn ymestyn ei bartneriaeth bresennol gyda’r Lab, sy’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Nesta.
Bydd y Lab yn rheoli ac yn dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol i’r Celfyddydau ac Iechyd hyd at Wanwyn 2021.
Bydd dwy gronfa ar gael yn y rhaglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl i gynnal a datblygu’r gwaith yn yr hir dymor, sef:
- Ymchwil a datblygu (y rhaglen Hadau).
- Grantiau mwy (y rhaglen Meithrin).
Bydd Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl yn datblygu gweithgarwch ym maes iechyd a lles sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Bydd hefyd yn mynd i’r afael â’r isod:
- Cefnogi lles gweithlu iechyd a gofal.
- Meithrin gwytnwch pobl sydd â phroblemau iechyd ac iechyd meddwl.
- Gwella iechyd pobl sydd ar y cyrion, heb gynrychiolaeth ddigonol neu mewn perygl.
Pobol yn troi at Gelf mewn pandemig
“Drwy gynnig y celfyddydau ar-lein ac yn lleol, mae artistiaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn gallu cadw eu hegni creadigol,” meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
“Un o fanteision annisgwyl y pandemig oedd rhagor o bobl yn troi at greadigrwydd fel ffordd o fwynhau a chadw cysylltiad.
“Gobeithio y bydd yr hwb i’r celfyddydau ac iechyd heddiw yn fodd i hyd yn oed ragor o bobl elwa ar y celfyddydau.”