Mae achos llys Simon Finch. cyn-weithiwr yn yr Adran Amdiffyn, wedi dechrau yn yr Old Bailey wrth i’r erlyniad ddechrau amlinellu eu dadleuon yn ei erbyn.

Mae’r dyn 50 oed o Abertawe wedi’i gyhuddo o gofnodi a datgelu gwybodaeth amddiffyn gyfrinachol hyd at Hydref 28, 2018.

Mae e wedi’i gyhuddo hefyd o fethu â rhoi côd mynediad i awdurdodau i dair dyfais electronig, yn groes i’r Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio, rhwng Medi 17 a Hydref 2 y llynedd.

Mae e’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Dywedodd y barnwr, Mrs Whipple, wrth y rheithgor fod y diffynnydd wedi gweithio mewn amryw o rolau yn y diwydiant amddiffyn, gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a dau gwmni preifat – BAE Systems a QinetiQ.

Dywedodd ei fod yn wynebu tri chyhuddiad, a bod dau ohonyn nhw’n ymwneud â thorri’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol.

Mae’r achos yn cael ei gynnal o dan reolau pellter cymdeithasol llym, gyda’r rheithgor wedi’u gwahanu gan sgriniau yn y llys.

Mae’r achos yn parhau.