Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i wahardd pobol rhag prynu nwyddau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol yn ystod y cyfnod clo dros dro wedi hollti barn yng Nghymru.

Yn ôl y rheolau, mae gofyn i archfarchnadoedd atal gwerthiant nwyddau fel llyfrau, cardiau a dillad yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae rhai wedi beirniadu’r cam fel un “dibwynt” sy’n rhoi gweithwyr archfarchnadoedd o dan straen diangen, tra bod perchnogion busnes bach yn croesawu’r camau, gan ei fod yn sicrhau tegwch.

Y pryder gwirioneddol yng nghanol yr holl ffraeo a’r dryswch yw fod y neges sylfaenol ynglŷn â iechyd cyhoeddus ac achub bywydau yn cael ei golli.

“Dydi o ddim yn cyflawni ddim byd”

“Dydw i ddim yn hollol siŵr os oedd ‘na bwynt iddyn nhw fod yn gwneud hyn i ddeud y gwir,” meddai Jason Morgan, wrth drafod y rheoliadau â golwg360.

“Mae o’n eithaf dibwynt, dydi o ddim yn cyflawni ddim byd.

“Dydi pobol ddim yn browsio am oriau yn y rhannau extra o’r archfarchnadoedd – dwi jyst ddim yn deall y rhesymeg tu ôl i’r peth o gwbl.”

Un cymhelliant y tu ôl i’r penderfyniad, yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford, yw sicrhau nad yw siopau llai sydd wedi gorfod cau yn cael eu rhoi o dan anfantais.

Er hynny, yn ôl Jason Morgan, drwy annog pobl i brynu nwyddau ar-lein, mae’r Prif Weinidog yn negydu’r pwynt hwnnw yn llwyr.

“Ddim am fod yn deg os oedden nhw ar agor a ni ddim”

Yn ôl Bethan Jones, rheolwraig siop lyfrau a chardiau Na Nog yng Nghaernarfon, mae hi’n falch fod y Llywodraeth wedi gwrando ar farn perchnogion busnesau bach, ond mae’n dweud y dylai’r neges fod wedi bod yn gliriach.

“Yn amlwg, mi yda ni wedi gorfod cau ein drysau,” meddai, “ac mae gen i’r teimlad bod o ddim am fod yn deg os oedden nhw ar agor a ni ddim.”

“Er hynny, gan fod ni’n gwerthu pethau Cymraeg, mae o rywsut yn wahanol a petai ni’n siop gwerthu llyfrau Saesneg a chardiau Saesneg, fyswn i’n teimlo lot, lot cryfach am y peth.”

Na Nog, Caernarfon

“Mae’r siopwyr yn dueddol o dargedu’r gweithwyr”

Mae sylw wedi ei roi dros y penwythnos i’r straen diangen mae’r sefyllfa yn ei roi ar weithwyr archfarchnadoedd.

“Dydi o ddim yn deg,” meddai Eryl Morris, sy’n gweithio mewn archfarchnad ym Mangor.

“Nid yr archfarchnadoedd sydd yn gwneud y rheolau.

“Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi bod yn fwy penodol o’r cychwyn.

“Mae’r siopwyr yn dueddol o dargedu’r gweithwyr. Maen nhw’n gweld ni fel easy target.”

Dywedodd mai diffyg cyfathrebu sydd wrth wraidd llawer o’r trafferthion.

“Dylai’r Llywodraeth fod wedi eistedd i lawr hefo’r cwmnïau i drafod beth oedd eu bwriad – beth sydd  yn hanfodol i werthu neu ddim,” meddai,

“Mae’r peth yn hurt!

“Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r busnesau a’r gweithwyr sydd wedi cael eu heffeithio oherwydd hyn.”

“Neges am iechyd cyhoeddus wedi diflannu”

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, mae’n hollbwysig cadw mewn cof mai’r cymhelliant y tu ôl i’r penderfyniad yw ceisio achub bywydau ac atal ymlediad y feirws.

Er hynny, dywed Jason Morgan fod y diffyg cyfathrebu clir a blaengynllunio wedi agor y drws i feirniadaeth, sy’n golygu bod y neges wedi ei cholli yn llwyr.

“Dydyn nhw (y Llywodraeth) ddim wedi cyfleu’r peth yn dda iawn,” meddai.

“Mae’r neges am iechyd cyhoeddus wedi diflannu, does ’na neb yn meddwl am hynny.

“Mae o jyst wedi troi mewn i ffrae am ddatganoli ond maen nhw wedi agor hyn i fyny iddyn nhw eu hunain.”

Ildio yn “gam gwag”

Mae deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi eu penderfyniad wedi denu bron i 67,000 o lofnodion.

Fodd bynnag, yn ôl Jason Morgan, mi fyddai ildio nawr yn “gam gwag”.

“Dwi’n meddwl y dylen nhw ddal ati,” meddai.

“Os ydyn nhw yn ildio i bwysau ar rywbeth fel hyn, maen nhw’n tanseilio nhw eu hunain, a’u hawdurdod mewn adeg ble mae pobol isio arweiniad a chanllawiau clir.

“Y teimlad ymhlith pobl dwi’n siarad hefo ydi does ’na neb yn licio hyn ond dwi’n meddwl bod y rhan fwyaf helaeth o bobl yn meddwl wnawn ni gwyno ein ffordd drwyddo fo. Cydnabod yr angen i neud hyn, er bod ni’m yn licio fo.

“Pen lawr a gweld o drwodd.”