Ched Evans
Fe fydd y Llys Apêl yn edrych eto ar y ddedfryd o dreisio yn erbyn Ched Evans, wedi i’r pêl-droediwr lwyddo i berswadio’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol bod ganddo achos.

Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd yn 2012 ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio dynes 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl, cyn cael ei ryddhau llynedd ar ôl treulio dwy flynedd a hanner dan glo.

Ond mae’r pêl-droediwr, sydd bellach yn 26 oed, wastad wedi mynnu ei fod yn ddieuog a bod y ddynes wedi cydsynio i gael rhyw ag e a’i ffrind Clayton MacDonald, gafodd ei ganfod yn ddieuog o dreisio.

Ers cael ei ryddhau o’r carchar llynedd mae Ched Evans, a enillodd 13 cap dros Gymru, wedi ceisio ailafael yn ei yrfa bêl-droed.

Ond ar ôl gwrthwynebiad cyhoeddus a bygythiadau gan rai noddwyr i dynnu nôl, fe benderfynodd clybiau fel Sheffield United ac Oldham i beidio â’i arwyddo.

Apelio

Yn ystod yr achos yn 2012 fe gafwyd Ched Evans yn euog o dreisio’r ddynes mewn gwesty yn 2011 ar ôl i’r rheithgor ddyfarnu ei bod hi’n rhy feddw i allu cydsynio i gael rhyw.

Ond mae Ched Evans wedi parhau i fynnu ei fod yn ddieuog ers hynny, gan gynnal gwefan sydd wedi bod yn dadlau ei achos.

Ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar fe gyhoeddodd fideo yn ymddiheuro am “effeithiau’r noson hwnnw” ar y ferch dan sylw ond dyw e heb ymddiheuro am ei threisio.

Cafodd ei achos ei gyfeirio at y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn gynharach eleni, wedi i’w gyfreithwyr gyflwyno tystiolaeth newydd, ac maen nhw bellach wedi dyfarnu y dylai’r Llys Apêl ailedrych ar yr achos.

Fe allai hynny olygu bod siawns gan Ched Evans o wyrdroi’r ddedfryd wreiddiol, ond fe allai’r llys hefyd benderfynu bod y ddedfryd honno’n dal i sefyll.