Mae cynllun peilot Curo’r Bwci, sy’n cynnig cymorth i rai sy’n dygymod â phroblemau gamblo yng Nghymru, yn cael ei lawnsio heddiw.

Gwefan a sefydlwyd gan bedair elusen yw Curo’r Bwci, sef CAIS, Stafell Fyw Caerdydd, Alcohol Concern a Chanolfan Astudiaethau Trin Caethiwed ‘Action on Addiction’.

Mae’r sefydliadau yn cydnabod fod gan Gymru “broblem gamblo fawr” a bod angen “mynd i’r afael â’r stigma”.

O ganlyniad, mae cynllun peilot yn cael ei lansio heddiw – a bydd sesiynau yn cael eu cynnal bob bore Llun a nos Fercher wedi hynny.

Gobaith Curo’r Bwci yw cysylltu’n uniongyrchol â’r rhai sy’n dioddef “gan lunio pecyn teilwredig i’w gyflwyno ledled Cymru” wedi hynny.

‘Gamblo: haws nag erioed’

Un sy’n arwain yr ymgyrch ar ran Stafell fyw Caerdydd yw Wynford Ellis Owen, ac fe ddywedodd “nid yw gamblo’n ffenomen newydd, ond mae gamblo problemus ar gynnydd yng Nghymru.”

Mae ymchwil yn dangos fod poblogaeth Cymru yn gamblo cyfanswm sydd gyfwerth â 3.4% (£1.6 biliwn) o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) y wlad bob blwyddyn.

Mae hynny’n gyfwerth â £675 i bob oedolyn yn y wlad.

Ac maen nhw wedi cyhoeddi ffigyrau hefyd sy’n dangos pa ranbarthau yng Nghymru sy’n gwario’r cyfansymiau mwyaf ar gamblo:

· De Ddwyrain Cymru (£345 miliwn)

· Caerdydd (£274 miliwn)

· Cymoedd De Cymru (£212 miliwn)

Mae Gogledd Cymru yn gamblo cyfanswm o £184 miliwn bob blwyddyn, tra bod Bro Morgannwg a Phowys yn gwario llai na £31 miliwn ar gamblo bob blwyddyn.

Ac, yn ôl Wynford Ellis Owen, “mae hi’n haws nag erioed gamblo heddiw – un ai ar y stryd fawr neu ar gyfrifiadur neu’r teledu.”

Stigma

Bwriad Curo’r Bwci yw cysylltu â chynnig cymorth uniongyrchol i’r rhai sy’n dioddef.

Mae eu cymorth wedi’i seilio ar y dystiolaeth ryngwladol orau, ac maen nhw wedi ffurfio partneriaeth strategol â sefydliad gamblo yn Awstralia.

“Gall problemau gamblo arwain at faterion emosiynol, ariannol a seicolegol difrifol iawn y mae’n anodd sylwi arnynt hyd nes bod y sefyllfa’n ddwys iawn i’r unigolion sy’n cael eu heffeithio,” meddai Wynford Ellis Owen.

“Rydym ni eisiau mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â gamblo problemus ac annog unrhyw un sy’n teimlo eu bod yn colli rheolaeth dros eu bywyd yn sgil gamblo i gysylltu â ni er mwyn helpu creu pecyn teilwredig i’w gyflwyno ledled Cymru.”

Mae amserlen y grwpiau therapi a sesiynau un-i-un i’w gweld ar wefan Curo’r Bwci.