Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi penodi dwy brif weithredwraig gynorthwyol newydd.
Mae Annwen Morgan a Caroline Turner ill dwy yn hanu o Ynys Môn. Fel rhan o’u swyddi, byddan nhw’n cyfrannu’n helaeth at waith yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth newydd o fewn y Cyngor.
Daw’r penodiadau hyn yn sgil ail-strwythuro uwch reolaeth o fewn yr Awdurdod, a fydd yn arwain at hyd at £250,000 o arbedion
Mae hyn yn golygu y bydd pedair o uwch swyddi yn cael eu diddymu– sef swydd Dirprwy Brif Weithredwr a thair swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol.
Croesawu
“Mae’r penderfyniad hwn i fireinio ein huwch reolaeth yn golygu y bydd strwythur uwch reolaeth Ynys Môn ar yr un llinellau ag awdurdodau eraill yng ngogledd Cymru,” meddai Ieuan Williams, Arweinydd y Cyngor.
“Bydd hefyd yn darparu arbedion effeithlonrwydd sylweddol fel rhan o gynigion ar gyfer cyllideb 2016/17,” ychwanegodd.
Mae Annwen Morgan wedi bod yn Bennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern ers 2007 ac, ar hyn o bryd, mae Caroline Turner yn gweithio fel Uwch Swyddog Sifil gyda Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.