Mae pedwar person yn yr ysbyty yn dilyn damwain car ym Mwlchgwyn ym Mwrdeisdref Sirol Wrecsam neithiwr (Hydref 4).

Cadarnhaodd Heddlu’r Gogledd bod gwrthdrawiad wedi bod rhwng car Vauxhall Cavalier a Vauxhall Agila.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7:14yh nos Sul, gyda phedwar ambiwlans yn ogystal â cherbyd ymateb brys a thri cherbyd tân yn mynychu’r gwrthdrawiad.

Cafodd tri pherson eu cludo i Ysbyty Maelor Wrecsam, tra bod un person wedi cael ei gludo i Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.

“Osgoi’r ardal”

Neithiwr (Hydref 4), gofynnodd yr heddlu wrth bobol i “osgoi’r ardal” gan rybuddio y byddai’r ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad.

“Bydd y B5430 ym Mwlchgwyn ynghau am gyfnod oherwydd gwrthdrawiad car,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.