Bythefnos wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ryddhau miloedd o garcharorion yn gynnar, mae Tania Bassett, pennaeth Undeb y Gwasanaeth Prawf (NAPO), yn dadlau bod angen i’r Llywodraeth newid eu hagwedd tuag at garcharu a chosbi.
Wrth siarad â golwg360, dywed Tania Bassett fod yna “greisis” yn y Gwasanaeth Prawf, yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae swyddogion y Gwasanaeth Prawf yn ymdrin â throseddwyr cyn iddyn nhw gael eu carcharu ac ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, ac maen nhw hefyd yn gyfrifol am droseddwyr ar ddedfrydau gohiriedig neu gymunedol.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, erbyn mis Mawrth eleni, roedd 239,015 o droseddwyr dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf ar draws Cymru a Lloegr.
Dydy’r Llywodraeth yn San Steffan ddim yn cyhoeddi gwybodaeth fanwl am Gymru’n benodol, ond yn ôl data o 2022 mae cyfradd garcharu Cymru’n sylweddol uwch nag un Lloegr – 163 ym mhob 100,000, o gymharu â 134.
Yn ôl Tania Bassett, mae Gwasanaeth Prawf Cymru’n wynebu’r un problemau â’r gwasanaeth yn Lloegr, ond ar gyfradd uwch.
Rhyddhau’n “angenrheidiol”
Ar Fedi 10, yn rhan o gynllun newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i leddfu’r pwysau ar garchardai, cafodd 1,700 o garcharorion eu rhyddhau ar draws Cymru a Lloegr, ar ben y 1,000 sy’n cael eu rhyddhau bob wythnos fel arfer.
Mae’r cynllun newydd wedi amlygu “creisis” yn y Gwasanaeth Prawf, yn ôl Tania Bassett, ac mae hynny’n peri amheuaeth am seiliau’r system garcharu a chosbi.
Dywed fod nifer o swyddogion wedi teimlo pwysau ofnadwy oherwydd y cynllun, ac yn aml maen nhw wedi cael llai nag wythnos o rybudd y byddai rhai o’r carcharorion maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw’n cael eu rhyddhau.
Roedd disgwyl i swyddogion hysbysu’r holl bobol briodol, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd meddwl, asiantaethau cyffuriau, a swyddogion cyswllt unrhyw ddioddefwyr, o fewn y cyfnod byr wedi iddyn nhw gael y rhybudd.
Yn ogystal, roedd rhaid ymgymryd ag asesiad llawn o gais y troseddwr, fyddai’n aml yn cymryd hyd at chwe awr.
Yn ddelfrydol, meddai, byddai’r holl broses hon yn digwydd dros dri mis wrth ddisgwyl i’r carcharor gael ei ryddhau.
O ganlyniad, roedd swyddogion y Gwasanaeth Prawf dan straen ofnadwy – a dyna, meddai, yw pam fod manylion bychain yn cael eu hesgeuluso.
Er gwaethaf hynny i gyd, doedd swyddogion y Gwasanaeth Prawf ddim wedi gwrthsefyll y pwysau.
O ganlyniad, medd Tania Bassett, bydd hynny o fantais iddyn nhw o ran eu grym negodi yn y dyfodol wrth iddyn nhw weithio’n galed “er budd gorau’r troseddwr a’r cyhoedd”.
‘Diffyg meddwl hirdymor’
Er ei bod hi’n gwerthfarogi bod rhyddhau carcharorion yn gynnar wedi bod yn ‘angenrheidiol’ oherwydd diffyg llefydd mewn carchardai, mae’n gresynu bod y Llywodraeth wedi methu meddwl yn “hirdymor”.
Daeth enghraifft o’r feddylfryd yma i’r amlwg yr wythnos ddiwethaf pan ddatgelodd darparwyr y tagiau electronig mae’n rhaid i droseddwyr ar brawf eu gwisgo fod prinder tagiau.
Yn ôl Tania Bassett, methiant arall ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth ymdrin â chwmnïau ar gytundeb iddyn nhw ydy hyn.
Ond pwysleisia nad y y cynllun diweddaraf hwn sydd wrth wraidd problemau’r Gwasanaeth Prawf.
“Mae’r Gwasanaeth Prawf wedi bod mewn creisis o ran prinder staff a llwyth gwaith ers 2021 – a dydw i ddim yn defnyddio’r gair “creisis” yn ddifeddwl.
“Ond mae’r gwaith ei hun gymaint yn fwy biwrocrataidd am ein bod ni o dan y Gwasanaeth Sifil nawr, sy’n golygu bod angen ailwneud pethau sawl gwaith a chymryd oes i fynd drwy’r holl brosesau, sy’n ychwanegu at bwysau gwaith.”
Goruchwyliaeth
Yn 2021, dychwelodd y Gwasanaeth Prawf o ddwylo preifat cwmnïau adfer yn y gymuned, yn ôl i Lywodraeth San Steffan a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Er bod y goruchwyliaeth ychwanegol yn beth da, meddai Tania Bassett, mae hefyd yn golygu bod swyddogion sy’n gweithio yn y gymuned wedi gorfod canolbwyntio ar gymaint yn fwy o waith papur.
Yn ôl un o declynnau mesur pwysau gwaith y Gwasanaeth Prawf, bu’n rhaid i swyddogion weithio ar gyfradd o 150% o’r hyn mae disgwyl iddyn nhw ei gyflawni, sydd gyfystyr â gweithio am 8 diwrnod bob wythnos yn y pump sydd ganddyn nhw.
Mae angen recriwtio staff newydd i leddfu’r pwysau, meddai Tania Bassett.
Dyma ydy cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd.
Mewn datganiad yr wythnos ddiwethaf, datgelodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod nhw’n bwriadu cyflogi 1,000 o swyddogion newydd i’r Gwasanaeth Prawf er mwyn ateb y galw.
Ond nid dim ond denu gweithwyr, ond eu cadw, hefyd, sydd ei angen, yn ôl Tania Bassett.
‘Etifeddu system mewn creisis’
Mae amodau gwaith mor sâl nes bod staff profiadol a di-brofiad yn gadael am swyddi â chyflogau uwch – gan gynnwys rhai sydd newydd gael eu hyfforddi.
Dim ond buddsoddiad ariannol fydd yn datrys y twll hwn, yn ôl Tania Bassett.
Dim ond un codiad cyflog sydd wedi’i gynnig i swyddogion y Gwasanaeth Prawf ers deuddeg mlynedd, ac all hyn ddim cystadlu â’r cyflogau sydd i’w cael yn y sector preifat.
Mae datganiad y Weinyddiaeth yn gweld bai ar y Llywodraeth Geidwadol flaenorol am hyn i gyd.
“Mae’r Llywodraeth hon wedi etifeddu system garchar mewn creisis – sy’n rhoi pwysau ar yr holl system gyfiawnder ac yn peri gofid i’r cyhoedd,” meddai llefarydd.
“Rydyn ni wedi cael ein gorfodi i gyflawni gweithred anodd ond angenrheidiol, fel ein bod ni’n medru parhâu i garcharu troseddwyr ac amddiffyn y cyhoedd.”
Ond yn ôl Tania Bassett, mae’r creisis yn dyddio’n ôl ymhellach fyth.
“O’m safbwynt i, mae llywodraeth ar ôl llywodraeth wedi peidio talu sylw iawn i’r system gyfiawnder – o sloganau Michael Howard yn dadlau bod ‘y carchar yn gweithio’, neu ddadl ‘llym ar droseddau, llym ar achosion troseddau’ Llafur Newydd, wedyn tanfuddsoddiad o hyd at 40% gan lywodraethau David Cameron a Theresa May, hyd at esgeulustod llwyr llywodraeth Rishi Sunak.
“Mae’r agwedd anghywir wedi bod gan sawl llywodraeth yn olynol, gan ffocysu ar gloi drysau’r carchardai ar droseddwyr er mwyn cael penawdau yn y papurau newydd.
“Dydy hynny ddim yn datrys y broblem, a dydy hynny’n sicr ddim yn helpu’r bobol sydd ynghlwm â’r system.
“Mi fydd angen strategaeth hirdymor ar y llywodraeth newydd, ac mae hynny’n golygu gorfod cymryd camau dewr iawn.”
‘Nid cloi pawb mewn cell ydy’r ateb’
Mae Tania Bassett yn dadlau bod angen mynd i’r afael â gwir seiliau problemau’r system gyfiawnder, felly – hynny yw, carcharu fel dull pennaf trin â throseddwyr.
“Mae NAPO a chorfforaeth swyddogion carchardai (y POA) yn cytuno – nid cloi pawb mewn cell ydy’r ateb,” meddai.
“Dydy’r isadeiledd ddim gyda ni, dydy’r arian ddim gyda ni, ac yn foesegol rydyn ni wedi cynyddu dedfrydau gymaint dros y pymtheg i ugain mlynedd ddiwethaf. A dw i’n credu bod jyst rhaid i ni beidio.
“Mae angen adolygiad llwyr o’r canllawiau dedfrydu, a sgwrs iawn am yr hyn sy’n gweithio, yn ôl y dystiolaeth sydd gennym ni – ac rydyn ni’n gwybod nad carcharu pawb ydy hynny.
“Mae angen buddsoddi mewn posibiliadau amgen i garcharu, ac mae angen yr ewyllys gwleidyddol er mwyn dadgyfeirio pobol o gael eu carcharu yn y lle cyntaf.
“Mae’r Gwasanaeth Prawf wastad wedi dangos mwy o werth am arian na’r carchardai, ac am leihau cyfraddau aildroseddu, felly dyna lle mae angen buddsoddi.”