Mae Heddlu Gwent wedi dechrau defnyddio Camerâu Fideo sy’n cael eu gwisgo ar gyrff plismyn yn dilyn treialon yn ninas Casnewydd.
Bydd yr heddlu yn gosod y camerâu fideo hyn ar eu dillad a phan fydd ar ddyletswydd, bydd y swyddog yn recordio’r hyn sy’n digwydd ar ei gamera.
Prif bwrpas y camerâu fideo yw “recordio tystiolaeth” a “chynnig tryloywder” ynghylch gweithredoedd swyddogion Heddlu Gwent mewn digwyddiadau.
Bydd Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth y Gymuned yng Ngwent i gyd yn cael camera’r un.
Yn ôl yr Heddlu, mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda rhai o’r farn y bydd y lluniau yn arwain at gyfnodau hirach yn y carchar i ddrwgweithredwyr – oherwydd bydd y “Barnwyr yn gallu gweld yr hyn ddigwyddodd”.
“Gorau po fwyaf y dystiolaeth! Dylai fwy o gamerâu olygu llai o droseddu,” meddai un.
Yn ôl Heddlu Gwent, mae’r camerâu â nifer o fuddiannau gan gynnwys:
- Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Cynyddu hyder y cyhoedd
- Rhoi tryloywder ynghylch gweithredoedd yr heddlu
- Recordio tystiolaeth o ddigwyddiadau/troseddau
- Annog pobl i bledio’n euog yn gynt gan gyflymu’r broses gyfiawnder
- Lleihau nifer y cwynion yn erbyn swyddogion a staff
- Gwella’r ffordd o hyfforddi a datblygu swyddogion a staff.