Fe fu’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn cyfarfod sêr cyfres Dragons’ Den y BBC er mwyn tynnu sylw at gynlluniau Llywodraeth Cymru i hybu entrepreneuriaid y dyfodol.

Aeth Julie James i gyfarfod Sky a Kia Ballantyne, chwiorydd yn eu harddegau o Rosan ar Wy a ddyfeisiodd Crikey Bikey® a fu o flaen panel o arbenigwyr busnes ar Dragon’s Den.

Harnais diogelwch yw’r Crikey Bikey® sy’n helpu rhieni i ddysgu eu plant i reidio beic yn ddiogel. Fe gafodd ei ddyfeisio gan y chwiorydd ar gyfer cystadleuaeth yn yr ysgol. Yn ogystal ag ymddangos ar Dragons’ Den, fe gafodd y merched eu henwi’n Beirianwyr Ifanc y Flwyddyn trwy Brydain ym mis Mawrth.

Roedd y digwyddiad yn Stadiwm y Liberty yn Abertawe yn rhan o gyfres ‘Sgwrs Go Iawn’ Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar hybu Entrepreneuriaeth Ieuenctid yng Nghymru eleni.

Cyffro

Meddai Sky a Kia Ballantyne: “Roedd y digwyddiad ‘Sgwrs Go Iawn’ yn lot o sbort ac roedd cael cyfarfod yr arweinwyr busnes yn gyffrous.  Roedden ni wedi synnu ac yn falch dros ben fod y Dirprwy Weinidog wedi clywed am Crikey Bikey®!  Mae siarad â phobl fusnes am ein cynnyrch yn gwneud i ni deimlo fel ein bod ni eisiau ei wneud e’n fwy ac yn well. Roedden nhw i weld â llawer o ddiddordeb yn Crikey Bikey® ac fe wnaethon nhw roi nifer o syniadau da i ni.  Fe wnaethon ni fwynhau esbonio iddyn nhw sut wnaethon ni ddyfeisio Crikey Bikey®.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Dw i wedi dilyn hanes Sky a Kia â diddordeb ac roedd hi’n fraint fawr eu cyfarfod nhw. Beth wnaeth fy nharo i yn ein sgwrs oedd cymaint o gefnogaeth maen nhw wedi’i gael gan eu rhieni a’u hysgol.”