Alan Knight
Mae gŵr a gwraig o Abertawe a geisiodd osgoi cyfiawnder am dros ddwy flynedd trwy ffugio anaf difrifol wedi cael eu carcharu.
Fe gafodd Alan Knight ei ddedfrydu i 14 mis o garchar gyda’i wraig Helen Knight yn cael 10 mis dan glo.
Roedd Alan Knight wedi honni ei fod yn rhy sâl i wynebu achos llys am dwyllo dyn 86 oed oedd yn dioddef o’r salwch dementia. Roedd y pensiynwr wedi rhoi £41,000 o’i gynilion bywyd i’r cwpwl ac wedi newid ei ewyllys.
Er mwy osgoi sefyll ei brawf mewn llys barn, fe wnaeth Alan Knight – gyda’i wraig Helen – greu stori yn honni ei fod fel cabatsien ar ôl dioddef anaf difrifol i’w wddw.
Fe glywodd Llys y Goron Abertawe fod y cwpwl wedi mynd i eithafion i geisio atal yr achos yn eu herbyn.
Ynghyd â threulio amser yn yr ysbyty ble bu am gyfnod o 10 wythnos, fe gyrhaeddodd y cwpwl y llys gydag Alan Knight yn ffugio ei fod yn anymwybodol tra roedd ei wraig 34 oed yn ei wthio mewn cadair olwyn.
Clywodd y barnwr fod y ddau wedi llwyddo i dwyllo eu haelod seneddol lleol i gefnogi eu hachos, gan wahodd newyddiadurwyr i’w cartref a oedd wedi’i addasu yn arbennig. Cafodd Alan Knight dynnu ei lun mewn ‘coma’ ac yn gwisgo mwgwd ocsigen.
Fe wnaeth heddwas oruchwylio’r cwpwl dros gyfnod o flynyddoedd ac fe gafodd Alan Knight ei ddal yn gyrru ei gar dros Bont Hafren ar ei ffordd i wyliau teuluol, ac yn mwynhau mynd ar reid yn y ffair ac mewn priodas yng Nghaerloyw.