Ysbyty Glan Clwyd
Mae Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael eu beirniadu am “oedi” wrth fynd i’r afael â chreu systemau newydd o osgoi helyntion ward iechyd meddwl Tawel Fan yn y dyfodol.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, roedd systemau “rheoli” a “sicrhau” wedi cael eu haddo gan Lywodraeth Cymru yn y dyddiau ar ôl cyhoeddi’r adroddiad cychwynnol ar yr hyn aeth o’i le.
Cafodd adroddiad ei gyhoeddi ar drafferthion Tawel Fan bedwar mis yn ôl, yn dangos bod “cam-drin sefydliadol” wedi digwydd ar yr uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd.
Cleifion yn “haeddu gwell”
Mewn llythyr at lefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, ddoe mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn dweud bydd yr “amserlenni ar gyfer y gwaith” o sefydlu’r systemau newydd “yn cael eu cadarnhau ar ôl cytuno ar amodau gorchwyl”.
Ond nid yw’r ateb wedi bodloni’r Ceidwadwyr.
“Mae dros 100 diwrnod ers i Betsi gael ei roi mewn ‘mesurau arbennig’ ac os awn ni ymlaen fel hyn, byddwn yn nodi cannoedd mwy o ddiwrnodau cyn gweld y newid sydd ei angen,” meddai Darren Millar AC.
“Roedd sgandal Tawel Fan wedi synnu’r genedl ac mae teuluoedd y rhai cafodd eu heffeithio yn haeddu gweld gweithredu llawer yn gynt i fynd i’r afael â’u pryderon.”
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Yn ôl y Bwrdd Iechyd, bydd adolygiad arall mwy sylweddol i drafferthion Tawel Fan yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.
“Rydym wedi comisiynu HASCAS (sefydliad annibynnol sy’n gwneud adolygiadau ar wasanaethau yn seiliedig ar dystiolaeth), er mwyn arwain ar waith ymchwilio annibynnol mewn perthynas â chwynion, pryderon… sy’n gysylltiedig â’r methiannau a ddigwyddodd,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Yn y cyfamser, mae naw aelod o staff wedi’u gwahardd, pedwar aelod o staff wedi cael eu hadleoli i ddyletswyddau eraill, ac mae tri aelod o staff ar ddyletswyddau cyfyngedig.”
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am roi sylw.