Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg dan y lach am y modd y deliodd â chwyn gan aelod o’r cyhoedd.
Yn ôl Gareth Clubb o Benarth mae’r ffordd mae Meri Huws a’i swyddfa yn delio â chwynion yn “ffrynt” i “rwystro” pobl rhag cwyno.
Fe gwynodd Gareth Clubb ar safle twitter y Comisiynydd am yr Asiantaeth Safonau Hysbysebu, a hynny ar ôl methu â gweld ffordd o gwyno’n Gymraeg am un o hysbysebion Llywodraeth Cymru.
Meddai Gareth Clubb ar safle twitter y Comisiynydd: ‘Trueni mawr nad oes hawl cwyno i @ASA_UK yn Gymraeg. Sut allen nhw wneud penderfyniadau ynghylch hysbysebiadau Cymraeg @ComyGymraeg?’ meddai ar Twitter.
Yn ymateb, dyma’r Comisiynydd yn cynnig: ‘Mae croeso i chi anfon cwyn at Gomisiynydd y Gymraeg drwy ddilyn y ddolen yma…’
Yn ôl Gareth Clubb, dyma’r ateb y mae pawb yn ei gael wrth gwyno i’r Comisiynydd ar Twitter.
“Dw i o hyd yn cael ymateb ffwrdd â hi fel hyn gan swyddfa’r Comisiynydd,” meddai.
“Mae’n rhwystro pobl eraill rhag cwyno achos bod e’n mor lletchwith i wneud hynny. Mae’n anodd iawn llenwi’r ffurflen [gwyno] ar ffôn symudol.
“Dw i wir yn meddwl bod e’n ffrynt, er mwyn atal pobl rhag cwyno.”
Ar ôl cwyno am hyn eto ar Twitter, fe gafodd ymateb arall gan y Comisiynydd, meddai, yn dweud wrtho fod modd gwneud cwyn i’r Asiantaeth Safonau Hysbysebu yn y Gymraeg.
Gwnaeth hyn drwy ddilyn y ddolen i wefan Gymraeg yr Asiantaeth, a gafodd ei darparu gan y Comisiynydd.
Ond daeth ddim ymateb i’w gŵyn Gymraeg gan yr Asiantaeth Safonau Hysbysebu, yn ôl Gareth Clubb.
Y Comisiynydd “methu” ag ymchwilio
“Ar ôl ychydig o wythnosau yn aros am ymateb, e-bostiais yr Asiantaeth eto gan gynnwys y Comisiynydd yn yr e-bost,” meddai Gareth Clubb.
Yn dilyn yr ail e-bost, fe gafodd Gareth Clubb e-bost gan y Comisiynydd yn dweud wrtho nad oedd modd iddyn nhw ymchwilio i’w gŵyn am nad oedd gan yr Asiantaeth Safonau Hysbysebu Gynllun Iaith ar gyfer darparu gwasanaethau yn ddwyieithog.
“Dw i heb gael unrhyw wasanaeth o gwbl gan yr Asiantaeth Safonau ac mae’r gwasanaeth rydw i wedi’i gael gan y Comisiynydd yn wael iawn,” meddai Gareth Clubb wrth golwg360.
Ychwanegodd: “Ar ochr pwy mae’r Comisiynydd? Mae hi i weld yn ddigon hapus i’r sefydliadau Prydeinig hyn anwybyddu’r Gymraeg.”
Ymateb y Comisiynydd
Mae golwg360 wedi cyflwyno cwynion Gareth Clubb i Gomisiynydd y Gymraeg, a dyma’r ymateb gafwyd mewn datganiad:
“Gallwn gadarnhau ein bod wedi derbyn gohebiaeth gan aelod o’r cyhoedd am y mater hwn, ac rydym yn rhoi sylw i’r ohebiaeth ar hyn o bryd.
“Daeth 365 o gwynion a phryderon i sylw’r Comisiynydd y llynedd, a rhoddwyd ystyriaeth i bob un ohonynt.
“Cynhaliodd y Comisiynydd gyfres o gyfarfodydd mewn gwahanol gymunedau ar draws Cymru yn gynharach eleni er mwyn clywed profiadau pobl wrth iddynt gwyno. Mae’r Comisiynydd bob amser yn croesawu adborth gan achwynwyr er mwyn hwyluso’r broses o gwyno.”
Roedd y Comisiynydd hefyd am nodi nad yw’r Asiantaeth Safonau Hysbysebu yn agored i orfod cydymffurfio â safonau o dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar hyn o bryd gan nad yw wedi ei enwi’n benodol yn Atodlen 6 y Mesur.