Mae grŵp o entrepreneuriaid o’r enw Global Welsh wedi galw am gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn annog cwmnïau ar draws y byd i fuddsoddi i ddatblygu economi Cymru.

Y bwriad yw creu cysylltiadau busnes gyda Chymry sy’n byw mewn gwledydd tramor er mwyn rhoi hwb i’r economi a chreu swyddi.

Mae’r grŵp felly yn cynnig £300,000 i gychwyn y fenter, ac maen nhw’n gofyn i Lywodraeth Cymru gyfrannu’r un swm.

Mae’r cynllun Global Welsh yn gobeithio efelychu cynllun sydd eisoes yn cael ei weithredu gan Iwerddon, sef ConnectIreland.

ConnectIreland

Mae ConnectIreland yn gynllun arloesol, lle mae pobol nad sy’n byw yn Iwerddon mwyach yn cyfrannu at adfywiad economaidd y wlad gan greu swyddi a sicrhau buddsoddiad.

Eu bwriad yw denu cwmnïau tramor i Iwerddon, a bydd Llywodraeth Iwerddon yn gwobrwyo’r rheiny sy’n llwyddo i ddenu’r cwmni.

Gweledigaeth Global Welsh felly yw efelychu hyn a datblygu’r economi Gymreig drwy gyfrwng cysylltiadau byd-eang.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “cydnabod gwerth defnyddio Cymry alltud i helpu adnabod a chefnogi cyfleodd buddsoddi yng Nghymru.

“Ar y cyd â phartneriaid yn y sector breifat, rydym wedi cyllido astudiaeth er mwyn mesur manteision posib sefydlu corff o’r fath.”

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn “astudio casgliadau’r astudiaeth, yn ogystal â chynllun busnes gan Global Welsh.”