Fe fu digwyddiad prin yn yr awyr neithiwr wrth i ddiffyg ar y lleuad (eclips) gyd-daro â lleuad lawn “arbennig” – gan achosi i’r lleuad droi’n goch yn ystod oriau mân y bore.

Mae hyn yn digwydd pan mae’r lleuad yn ei rhan agosaf o orbit y ddaear. Felly, mae’n ymddangos yn fwy yn yr awyr, ac yn troi’n goch oherwydd y golau o atmosffer y ddaear.

Roedd y diffyg ar y lleuad a ddigwyddodd rhwng 3 a 4 y bore yma yn “ddigwyddiad prin”, yn ôl gwyddonwyr. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd yn 1982. Does dim disgwyl iddo ddigwydd eto tan 2033.