Swyddogion fforensig yng Ngerddi'r Orsedd, Caerdydd
Mae dyn, 23 oed, wedi’i gyhuddo o geisio treisio merch yng Ngerddi’r Orsedd, Caerdydd fore dydd Iau diwethaf.

Mae disgwyl i Khalid Alahmadi, sy’n byw ynghanol y ddinas, ymddangos o flaen Llys yr Ynadon Caerdydd yn hwyrach heddiw.

Mae wedi’i gyhuddo o ymosod ar ferch 19 oed yng Ngerddi’r Orsedd am 4:30 fore dydd Iau diwethaf.

Parhau i ymchwilio

Mae Heddlu’r De hefyd yn ymchwilio i ddau ymosodiad rhywiol arall yn y brifddinas mewn cyfnod o 5 diwrnod.

Yn yr ail ddigwyddiad, ymosodwyd ar ferch 20 oed mewn tŷ yn ardal Cathays yn ystod oriau mân fore dydd Mawrth.

Mewn digwyddiad arall, bu ymosodiad ar ferch 20 oed ger Prifysgol Caerdydd yn ystod oriau mân fore dydd Sul, 20 Medi.

Ddydd Sadwrn fe ymddangosodd Remus Hamza, 40 oed, o ardal Riverside, o flaen Llys Ynadon Caerdydd wedi’i gyhuddo o dreisio’r ferch 20 oed ger Prifysgol Caerdydd ar 20 Medi. Mae wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron ar 12 Hydref.