Mae’n ymddangos y bydd cenedlaetholwyr Catalunya wedi ennill mwyafrif clir o’r seddau yn yr etholiad i’r senedd ranbarthol yno heddiw.

Yn ôl arolwg barn o bobl sydd wedi pleidleisio, mae disgwyl i’r brif blaid genedlaethol, Junts pel Si ennill rhwng 63 a 66 o’r 135 o seddau’r senedd, ac y bydd y blaid genedlaetholgar asgell chwith, CUP, yn ennill rhwng 11 a 13 o seddau.

Mae’n ymddangos hefyd fod y ddwy blaid wedi ennill 49.8% rhyngddyn nhw o gyfanswm pleidleisiau Catalunya.

Mae’r ddwy blaid wedi dweud y bydden nhw’n datgan annibyniaeth o fewn 18 mis os byddan nhw’n ennill mwyafrif.

Mae disgwyl y bydd y canlyniadau terfynol yn cael eu cyhoeddi yn ystod y nos.