Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cydnabod fod Llafur yn wynebu brwydr galed yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Wrth siarad yng nghynhadledd y blaid Lafur yn Brighton ddydd Sul, fe wfftiodd honiadau nad yw’r arweinydd newydd Jeremy Corbyn o ddifrif ynghylch ennill etholiadau.
“Fel rhywun sydd wedi ennill etholiad arweinydd ac etholiad Cynulliad, gallaf eich sicrhau bod unrhyw un sy’n ennill bron i 60% o’r bleidlais o ddifrif ynghylch ennill etholiadau,” meddai.
Wrth longyfarch Jeremy Corbyn a Tom Watson fel ei ddirprwy, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r ddau.
Ymosod ar y gwrthbleidiau
Wrth drafod etholiad y Cynulliad, ymosododd ar y pleidiau eraill a fydd yn cystadlu yn erbyn Llafur.
“Y flwyddyn nesaf, fe fydd y Torïaid wrth gwrs yn gwario mwy na ni ac yn defnyddio’u megaffon yn San Steffan unwaith eto i bardduo record y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
“Ac wrth gwrs mae peryglon ar yr ymylon hefyd – fe fydd cenedlaetholdeb gorffwyll Ukip a chenedlaetholdeb byd ffantasi Plaid Cymru yn cystadlu’n galed am bleidleisiau’r rhai anfodlon eu byd.
“Fe fydd hi’n anodd. Ond, fel Llafur Cymru, mae gennym arf dirgel. Sef record o fod wedi cyflawni.”
‘Arwain y frwydr’
Yr un oedd neges llefarydd yr Wrthblaid ar Gymru, Nia Griffith, hefyd.
“Mae Carwyn a’i dîm o weinidogion Llafur yn arwain y frwydr yn erbyn y Torïaid ac yn cyflawni dros Gymru bob dydd,” meddai.
“Mae gennym y fath record o gyflawni. Y canlyniadau TGAU gorau erioed. Cynllun creu swyddi sy’n destun cenfigen ledled Ewrop, ac sy’n rhoi cyfleoedd swyddi i 17,000 o bobl ifanc.
“Mae gennym Lywodraeth Lafur yng Nghymru sy’n cefnogi busnesau ac yn buddsoddi mewn twf a swyddi.”