Mae ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyngor Gwynedd wedi galw am ‘ddiffiniadau cliriach’ o rôl yr Awdurdod wrth gynnal safonau addysg mewn ysgolion.
Fe wnaeth y Cyngor dderbyn yr holl argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Craffu – mewn ymgais i wella’r ddarpariaeth addysg yng Ngwynedd.
Fe wnaeth yr ymchwiliad Craffu ganolbwyntio ar dri dalgylch gwahanol o Wynedd wrth lunio’r adroddiad, sef Ardudwy, Bangor a Botwnnog.
“Y gobaith oedd bod y dalgylchoedd amrywiol hyn yn gyfrwng i adlewyrchu holl ddalgylchoedd Gwynedd”, meddai Alwyn Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu.
Yr Argymhellion
Roedd yr adroddiad yn cynnwys mwy nag ugain o argymhellion, gan gynnwys sefydlu Canolfan Iaith i Fangor, darparu addysg drochi i Ysgol Ardudwy a sicrhau bod canlyniadau arholiadau Saesneg gystal â chanlyniadau arholiadau Cymraeg.
Mae un o’r argymhellion eraill hefyd yn cynnwys trafod gyda Phrifysgol Bangor y posibilrwydd o osod safon benodol i ddatblygu sgiliau addysg Cymraeg, ynghyd â datblygu sgiliau dwyieithog darpar athrawon.
Fe wnaeth y Cyngor dderbyn yr holl argymhellion hyn, gan nodi yn eu Brîff fod “gan yr Awdurdod Addysg gyfrifoldebau eang i ddarparu gwasanaethau cefnogol ar gyfer prif ddarparwyr addysg y sir – ar gyfer ein plant, ein hysgolion cynradd, uwchradd ac arbenigol.”