Os nad oedd y Saeson eisoes yn gwybod fod y Cymry ar eu ffordd i Lundain i feddiannu’r ddinas cyn y gêm rygbi fawr yng Nghwpan y Byd dydd Sadwrn, fe fyddan nhw’n gwybod hynny bellach.

Yr wythnos hon fe gafodd teithwyr yng ngorsaf drên Fictoria eu synnu wrth i un o arwyr rygbi Cymru, Scott Quinnell, arwain grŵp o gefnogwyr i ganol neuadd yr orsaf a dechrau canu Hen Wlad Fy Nhadau.

Mae fideo o’r gân, gafodd ei chyhoeddi gan gwmni yswiriant Admiral sydd yn noddi tîm Cymru, bellach wedi cael ei gwylio dros 2,300 o weithiau ar YouTube.

Ac fe arweiniodd y fideo at gael yr hashnod #TheWelshAreComing yn trendio ar wefan Twitter, pedwar diwrnod cyn i Gymru herio Lloegr mewn gêm dyngedfennol yng Nghwpan y Byd.

Fe fydd y ddau dîm yn wynebu’i gilydd dydd Sadwrn ar ôl dechrau eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd â buddugoliaethau pwynt bonws, gyda Lloegr yn trechu Fiji a Chymru’n maeddu Wrwgwai.

Bydd enillwyr y gêm yn weddol hyderus o allu dianc o grŵp sydd hefyd yn cynnwys Awstralia, ond fe fydd y tîm sydd yn colli’n wynebu her enfawr wrth geisio cyrraedd rownd yr wyth olaf.

Ac fe fydd Scott Quinnell a’i griw mae’n siŵr yn gobeithio y bydd Cymru gyfan yn canu gyda nhw pan fydd y chwib olaf yn chwythu yn Twickenham ar y penwythnos.