Mae swastika wedi ymddangos ar wal Cofiwch Dryweryn ger Llanrhystud, ac fe fu’n rhaid i’r wal gael ei glanhau.
Wrth dynnu sylw at y digwyddiad ar ei thudalen Twitter, dywed Elin Jones, Llywydd y Cynulliad ac Aelod Cynulliad Ceredigion, fod y weithred yn un “afiach”.
Ac mewn neges at golwg360, dywed y ffotograffydd Marian Delyth iddi sylwi ar y graffiti wrth fynd heibio’r wal heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 30).
“Dw i ddim wedi pasio fan hyn ers deg diwrnod ond fe sylwais hanner awr yn ôl bod graffiti ar wal Cofiwch Dryweryn,” meddai.
Y swastika wedi ei pheintio ar Wal Tryweryn. Afiach. Mae’r heddlu yn ymwybodol ac yn edrych mewn i’r mater.
Police are aware of the swastika on the Cofiwch Dryweryn wall. If you have information, tell the police. This is not a prank – it is sinister and dangerous. pic.twitter.com/EKtWxKgQ4u— Elin Jones (@ElinCeredigion) June 30, 2020
Hanes o fandaliaeth
Nid dyma’r tro cyntaf i rywrai dargedu’r wal.
Cafodd ei dymchwel fis Ebrill y llynedd.
Mae’r wal a’r slogan ‘Cofiwch Dryweryn’, a gafodd ei baentio gan Meic Stephens a Rodric Evans, yn adnabyddus ledled Cymru ar ôl iddo gael ei baentio yno yn y 1960au yn sgil boddi Capel Celyn i roi dŵr i Lerpwl.
Diweddariad
Mae’r wal eisioes wedi’i chywiro!
Cyn bod neb yn cythru am Lanrhystud efo tuniau paent, mae rhywun eisoes wedi ai-beintio'r wal. pic.twitter.com/KmCHTGDeCy
— Iestyn Hughes (@Traedmawr) June 30, 2020
Gyda’r Aelod o’r Senedd lleol, yr heddlu a’r Cyngor lleol yn rhan o’r ymdrech.
Cofiwch Dryweryn yn goroesi! Diolch @CSCeredigion @DyfedPowys a phawb.
Wal Tryweryn restored and hateful, racist symbols removed. pic.twitter.com/t7JEXvLKuA— Elin Jones (@ElinCeredigion) June 30, 2020